Cyngor Tref Aberystwyth
Cyngor Tref Aberystwyth | |
---|---|
Gwybodaeth gyffredinol | |
Math | Cyngor Tref |
Arweinyddiaeth | |
Maer | Mari Turner |
Dirprwy Faer | Charlie Kingsbury |
Aelodau | 19 |
Grwpiau gwleidyddol | Plaid Cymru (12) Liberal Democrats (5) Plaid Lafur (2) |
Etholiadau | |
Etholiad diwethaf | 4 Mai 2017 |
Etholiad nesaf | 5 Mai 2022 |
Man cyfarfod | |
Siambr-y-Cyngor, 11 Stryd y Popty, Aberystwyth, SY23 2BJ. | |
Gwefan | |
www.aberystwyth.gov.uk |
Cyngor Tref Aberystwyth yw'r cyngor cymuned sy'n gwasanaethu hen fwrdeistref, tref a chymuned Aberystwyth. Fe'i rhennir i bum ward ar gyfer etholiadau.
Cefndir
[golygu | golygu cod]Mae'r Cyngor yn penodi cadeirydd sy'n gweithredu fel llywydd ac a adnebir fel Maer Aberystwyth. Mae'r Cyngor bellach yn gorff staduol ond mae hefyd yn gadael ar Siarter Bwrdeisdref a roddwyd iddi gan y Edward I, brenin Lloegr ar 28 Rhagfyr 1277 ac sydd wedi ei chadarnhau gan frenhinoedd ers hynny,[1] sy'n golygu fod aelodau'r Cyngor hefyd yn ymddiriedoliaethwyr y Siarder.
Ers i'r Deddf Corfforaethu Bwrdeisdref 1835 ddod i rym, mae statws Aberystwyth fel bwrdeisdref wedi bod yn un seremoniol yn unig. Ers Deddf Llywodraeth Leol 1972 (a ddaeth i rym yn Ebrill 1974), gwaharddwyd cyngor y dref rhag cael ei hadnabod fel cyngor bwrdeisdref, er gall cynghorwyr tref, fel ymddiriedolaethwyr siarder, er enghraifft, dal gymryd rhan mewn gweithgaredd seremoniol (gwisgo ffurfwisg dinesig), ethol maeri (sy'n cael gwisgo cadwyn y swydd) a threfnu marchnadoedd (yn unol â'r Siarter Frenhinol wreiddiol). Y Maer yn 2019-20 yw Mari Turner.[2]
Ceir pump ward i Gyngor Tref Aberystwyth - Bronglais, Canol, Gogledd, Penparcau a Rheidol - sy'n ethol rhwng 3 a 5 cynghorydd yr un.
Gyda'r clod o'r gogledd, mae'n ffinio â chynghorau cymuned Tirymynach, Faenor, Llanbadarn Fawr a Llanfarian.
Cynrychiolaeth Cyfredol, ers etholiad 2017
[golygu | golygu cod]2017 | ||
---|---|---|
Grŵp Gwleidyddol | Aelodau | |
Plaid Cymru |
12 | |
Democratiaid Rhyddfrydol | 5 | |
Plaid Lafur |
2 | |
Cyfanswm |
19 |
Maeri Diweddar Cyngor Tref Aberystwyth
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Enw | Plaid | Nodiadau | |
---|---|---|---|---|
2019-20 | Mari Turner | Plaid Cymru | ||
2018-19 | Talat Zafar Chaudhri | Plaid Cymru | Maer cyntaf Aberystwyth o gefndir Pacistani Punjabi | |
2017-18 | Steve Davies | Plaid Cymru | ||
2016-17 | Brendan Somers | Plaid Cymru | Collodd ei sedd 4 Mai 2017 | |
2015-16 | Endaf Edwards | Plaid Cymru | ||
2014-15 | Brenda Haines | Rhyddfrydwyr | ||
2013-14 | Wendy Morris-Twiddy | Rhyddfrydwyr | ||
2012-13 | Dylan Lewis | Annibynnol | ||
2011-12 | Richard Boudier | Llafur | Ymgeisydd Ceredigion i senedd San Steffan | |
2010-11 | Samantha Hearne | Rhyddfrydwyr | ||
2009-10 | Trevor Shaftoe | Rhyddfrydwyr | ||
2008-09 | Susan Jones-Davies | Plaid Cymru | ||
2007-08 | Lorrae Jones-Southgate | Rhyddfrydwyr | Ymddiswyddodd Mehefin 2008 | |
2006-07 | Michael Jones | Plaid Cymru | ||
2005-06 | Aled Davies | Plaid Cymru | ||
2004-05 | John T. James | Plaid Cymru | Annibynnol wedi Mawrth 2005 | |
2003-04 | John T. James | Plaid Cymru | ||
2002-03 | Carol Kolczak | Rhyddfrydwyr | ||
2000-01 | Jaci Taylor | Plaid Cymru | ||
1999-00 | Siôn Jobbins | Plaid Cymru | ||
1998-99 | Graham T. Parry | Rhyddfrydwyr | ||
1997-98 | Elin Jones | Plaid Cymru | ||
1996-97 | Carol Kolczak | Rhyddfrydwyr | ||
1995-96 | Hywel Jones | Annibynnol | Diarddelwyd yn Chwefror 1996 | |
1994-95 | Bob Griffin | Rhyddfrydwyr | Gŵr Rose Simpson |
Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiraidau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Hanes y Fwrdeistref" Archifwyd 2019-08-14 yn y Peiriant Wayback; Cyngor Tref Aberystwyth; adalwyd 14 Awst 2019
- ↑ "Maer Aberystwyth" Archifwyd 2019-08-14 yn y Peiriant Wayback; Cyngor Tref Aberystwyth; adalwyd 14 Awst 2019