Cynghrair y Cenhedloedd
Enghraifft o: | sefydliad rhynglywodraethol, sefydliad rhyngwladol |
---|---|
Idioleg | rhyngwladoliaeth |
Daeth i ben | 18 Ebrill 1946, 20 Ebrill 1946 |
Dechrau/Sefydlu | 1919 |
Lleoliad yr archif | La contemporaine |
Pennaeth y sefydliad | Secretary-General of the League of Nations |
Olynydd | Y Cenhedloedd Unedig |
Isgwmni/au | Women's Advisory Council, League of Nations, Permanent Court of International Justice, y Sefydliad Llafur Rhyngwladol |
Pencadlys | palais Wilson, Palace of Nations |
Gwladwriaeth | Y Swistir |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Corff cydwladol a grëwyd ym 1920 oedd Cynghrair y Cenhedloedd. Fe'i sefydlwyd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf gyda'r bwriad o sefydlu heddwch yn y byd. Cyfarfu am y tro cyntaf ar 10 Ionawr 1920, yng Ngenefa yn y Swistir.[1]
Ymgorfforwyd 'Cyfamod Cynghrair y Cenhedloedd' (ei dogfen sefydlu) yn y cytundebau heddwch a wnaed ar ôl y Rhyfel Mawr, ond gwrthodai'r Unol Daleithiau dderbyn Cytundeb Versailles ac o ganlyniad cafodd ei diarddel o'r Gynghrair. Roedd hyn yn llesteirio gwaith y sefydliad o'r cychwyn cyntaf bron. Serch hynny, llwyddai'r Gynghrair i wneud gwaith pwysig yn datrys anghydfod, yn trefnu cyngresau rhyngwladol ar sawl pwnc ac yn cyflawni gwaith dyngarol.[2]
Fodd bynnag, methodd y Gynghrair a delio â'r sefyllfa ryngwladol a ddatblygai yn y tridegau, megis rhyfel Siapan yn Tsieina, yr Eidal yn Ethiopia ac yn bennaf oll achos yr Almaen, a dynnodd allan o'r Gynghrair ym 1933.
Cymerodd y Cenhedloedd Unedig le'r Cynghrair ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Aberystwyth
[golygu | golygu cod]Un o brif noddwyr a chefnogwyr y Gynghrair yng Nghymru oedd David Davies, Aelod Seneddol sir Drefaldwyn, ŵyr y diwydiannwr enwog o'r un enw ag ef. Roedd hefyd yn Llywydd Prifysgol Aberystwyth. Pan gynigiwyd, ym 1925, na ddylid cynnal y gynhadledd flynyddol (a oedd i fod yn Dresden), yn yr Almaen, cynigiodd David Davies Aberystwyth fel lleoliad iddi, a derbyniwyd hynny. Y flwyddyn wedyn, rhwng 29 Mehefin a 3 Gorffennaf 1926, cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Cynghrair y Cenhedloedd yn Aberystwyth.[3].
Dyma rai o'r llefydd yr ymwelodd y Gynghrair â nhw:
- 1919 Paris.
- 1919 Llundain.
- 1919 Brwsel.
- 1920 Milan.
- 1920 Genefa.
- 1922 Prag.
- 1923 Fienna.
- 1924 Lyon.
- 1925 Warsaw.
- 1926 Aberystwyth.
- 1927 Berlin.
- 1928 Yr Hâg.
- 1928 Prag.
- 1929 Madrid.
- 1934 Brwsel.
- 1936 Genefa.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Christian, Tomuschat (1995). The United Nations at Age Fifty: A Legal Perspective. Martinus Nijhoff LOLPublishers. t. 77. ISBN 9789041101457.
- ↑ "Covenant of the League of Nations". The Avalon Project. Cyrchwyd 30 August 2011.
- ↑ The League of Nations Visit to Aberystwyth; adalwyd 17 Mehefin 2016.