Cyfnod (daeareg)
Mewn daeareg, rhennir amser yn sawl rhan, er mwyn drwpio cerrig a digwyddiadau gyda'i gilydd; mae'r term cyfnod (Saesneg: period) yn cael ei ddefnyddio am un o'r rhaniadau hyn. O fewn cyfnod daearegol, ceir sawl rhaniad pellach ar ffurf hierarchaeth a seiliwyd gan ddaearegwyr er mwyn hollti a threfnu hanes planed Daear yn daclus.
Mae 'eon' a 'gorgyfnod' (era) yn fwy na chyfnod ac mae 'epoc' ac oes' yn llai. Ni yw'r presennol yn cael ei gyfrif oddi fewn i gyfnod, na'r blynyddoedd diwethaf - hyd at 2500 miliwn o flynyddoedd CP; mae'r defnydd o gyfnodau'n cychwyn o 2500 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Mae’r term ‘system’ yn cyfeirio at y creigiau a ffurfiwyd yn ystod cyfnod daearegol.
Yn y tabl canlynol, cynhwysir pob cyfnod a dderbynir yn swyddogol yn 2015:
Eon | Gorgyfnod Era |
Cyfnod Period |
Miliwn Cyn y Presennol CP |
Ysbaid o amser y parhaodd: Miliwn o flynyddoedd |
---|---|---|---|---|
Ffanerosöig | Cenosöig | Cwaternaidd | 2.588–0 | 2.588+ |
Neogen (Mïosen/Pliosen) | 23.03–2.588 | 20.4 | ||
Paleogen (Paleosen/Ëosen/Oligosen) | 66.0–23.03 | 42.9 | ||
Mesosöig | Cretasaidd | 145.5–66.0 | 79.5 | |
Jwrasig | 201.3–145.0 | 56.3 | ||
Triasig | 252.17–201.3 | 50.9 | ||
Paleosöig | Permaidd | 298.9–252.17 | 46.7 | |
Carbonifferaidd (Mississippian/Pennsylvanian) | 358.9–298.9 | 60 | ||
Defonaidd | 419.2–358.9 | 60.3 | ||
Silwraidd | 443.4–419.2 | 24.2 | ||
Ordofigaidd | 485.4–443.4 | 42 | ||
Cambriaidd | 541.0–485.4 | 55.6 | ||
Proterosöig | Neoproterosöig | Ediacaraidd | 635.0–541.0 | 94 |
Cryogenaidd | 850–635 | 215 | ||
Tonaidd | 1000–850 | 150 | ||
Mesoproterosöig | Stenaidd | 1200–1000 | 200 | |
Ectasaidd | 1400–1200 | 200 | ||
Calymmaidd | 1600–1400 | 200 | ||
Paleoproterosöig | Statheraidd | 1800–1600 | 200 | |
Orosiraidd | 2050–1800 | 250 | ||
Rhyacaidd | 2300–2050 | 250 | ||
Sideraidd | 2500–2300 | 200 |
|
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- ↑ Comisiwn Rhyngwladol ar Stratograffeg. "International Stratigraphic Chart" (PDF).