Cyfeirgi Seisnig
Enghraifft o: | brîd o gi |
---|---|
Math | ci, Gun dog |
Gwlad | Lloegr |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfeirgi sy'n tarddu o Loegr yw'r Cyfeirgi Seisnig.[1] Datblygodd mwy na 400 mlynedd yn ôl, ac yn ei ffurf bresennol ers 1825. Ceir dwy linach o'r brîd a enwir ar ôl y bridwyr a'u datblygodd: Cyfeirgi Llewellin a Chyfeirgi Laverack. Mae'n gi adara a ddefnyddir i leoli adar ar gyfer y heliwr.[2]
Mae ganddo daldra o 61 i 63.5 cm (24 i 25 modfedd) ac yn pwyso 18 i 32 kg (40 i 70 o bwysau). Mae ganddo ben hir, clustiau llipa, brest ddwfn, a chynffon bigfain. Mae gan ei gôt flew hir ar ei chlustiau, y frest, ei choesau a'i chynffon ac o liw gwyn gyda brych melyn ("belton oren") neu ddu ("belton glas") neu'n drilliw (belton glas gyda melyn ar y drwyn, y llygaid a'r coesau); ceir hefyd yn anghyffredin belton lemwn neu ddugoch. Yn ogystal â bod yn gi adara mae'r Cyfeirgi Seisnig yn gi gymar da gyda natur addfwyn a chyfeillgar.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, [setter].
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) English setter. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Medi 2014.