Costa Rica
Gweriniaeth Costa Rica República de Costa Rica (Sbaeneg) | |
Arwyddair | Essential Costa Rica |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad |
Prifddinas | San José, Costa Rica |
Poblogaeth | 5,044,197 |
Sefydlwyd | 7 Tachwedd 1949 (Cyfansoddiad) |
Anthem | Noble patria, tu hermosa bandera |
Pennaeth llywodraeth | Rodrigo Chaves |
Cylchfa amser | UTC−06:00, America/Costa_Rica |
Nawddsant | Virgin of the Angels |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Sbaeneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | America Ladin, Canolbarth America, America Sbaenig, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi |
Gwlad | Costa Rica |
Arwynebedd | 51,179.92 km² |
Gerllaw | Môr y Caribî, Y Cefnfor Tawel |
Yn ffinio gyda | Panamâ, Nicaragwa |
Cyfesurynnau | 10°N 84°W |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Deddfwriaethol Costa Rica |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Costa Rica |
Pennaeth y wladwriaeth | Rodrigo Chaves |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Costa Rica |
Pennaeth y Llywodraeth | Rodrigo Chaves |
Delwedd:LocationCostRica.svg | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $64,616 million, $68,381 million |
Arian | Costa Rican colón |
Canran y diwaith | 8 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.819 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.809 |
Gwlad yng Nghanolbarth America yw Gweriniaeth Costa Rica neu Costa Rica. Mae'n rhannu ffin â Nicaragwa i'r gogledd ac â Phanama i'r de-ddwyrain. Mae'r Cefnfor Tawel yn gorwedd i'r gorllewin ac i'r de ac mae Môr y Caribî yn gorwedd i'r dwyrain. Diddymodd Costa Rica ei byddin ym 1949.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd trigolion brodorol Costa Rica yn cynnwys y gwareiddiad Nahwatleg at Benrhyn Nicoya a dylanwadau Chibcha yn y de a'r canolbarth. Yr Ewropead cyntaf i gyrraedd oedd Christopher Columbus yn 1502. Daeth Costa Rica yn rhan o Ymerodraeth Sbaen, ond roedd yn llai llewyrchus na'r trefdigaethau Sbaenaidd eraill yng Nghanolbarth America. Ffurfiai Costa Rica ran fwyaf deheuol Sbaen Newydd, ymhell o brifddinas yr is-deyrnas, Dinas Mexico.
Yn 1821, ymunodd Costa Rica a threfedigaethau eraill Canolbarth America i gyhoeddi eu hanibynniaeth oddi wrth Sbaen. Wedi bod yn rhan o Ymerodraeth Mecsico am gyfnod byr, daeth Costa Rica yn un o daleithiau Gweriniaeth Ffederal Canolbarth America o 1823 hyd 1839. Yn 1824, symudwyd y brifddinas i San José.
Yn 1838, cyhoeddodd Costa Rica ei bod yn gadael y Weriniaeth Ffederal a dod yn wlad annibynnol. Yn 1856, bu ymladd yn erbyn byddin William Walker, brodor o dde yr Unol Daleithiau, oedd wedi llwyddo i gipio grym yn Nicaragwa gyda byddin o hurfilwyr. Wedi ennill grym yno. ceisiodd Walker gipio Costa Rica hefyd. Ei fwriad oedd sefydlu trefn gymdeithasol debyg i dde yr Unol Daleithiau; yn Nicaragwa roedd wedi gwneud Saesneg yn iaith swyddogol a gwneud caethwasiaeth yn gyfreithlon. Gofynnodd yr Arlywydd Juan Rafael Mora Porras i'r Cadfridog José María Cañas Escamilla ffurfio byddin genedlaethol, ac ymladdwyd nifer o frwydrau yn erbyn byddin Walker, brwydrau Santa Rosa (4 Mawrth) a dwy frwydr Rivas 11 Ebrill 1856 ac 11 Ebrill 1857. Ar 1 Mai 1857, ildiodd Walker a gadawodd Ganolbarth America.
Bu rhyfel cartref byr yn 1948, pan arweiniodd José Figueres Ferrer wrthryfel yn dilyn etholiad arlywyddol y credid gan lawer fod y canlyniad yn amheus. Lladdwyd tua 2,000 yn y rhyfel. Enillodd y gwrthryfelwyr, ac wedi dod i rym, crewyd cyfansoddiad newydd. Ymhlith by newidiadau, gwnaed i ffwrdd a'r lluoedd arfog; y wlad gyntaf i wneud hynny. Etholwyd Figueres yn Arlywydd yn 1953.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd ffiniau Costa Rica â Nicaragwa gan Gytundebau Cañas-Jerez yn 1858 a Laudo Cleveland yn 1888, a gyda Panama gan gytundeb Echandi-Fernández yn 1941.
Mae Costa Rica yn wlad fynyddig, gyda'r rhan fwyaf o'i thiriogaeth rhwng 900 a 1800 medr uwch lefel y môr. Ceir tair prif gadwyn o fynyddoedd, y Cordillera Meridional, y Cordillera SubVolcanica de Madrid a'r Cordillera Trepadora. Ynghanol y wlad ceir y Valle Central ("Dyffryn Canolog"), lle mae'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn byw. Y copa uchaf yw Cerro Chirripó (3,820 medr), y pumed copa yng Nghanolbarth America o ran uchder. Yr uchaf o'r llosgfynyddoedd yw Irazú (3,431 m.).
Ceir nifer o ynysoedd oddi ar arfordir Costa Rica, yn cynnwys Ynys Cocos ac Ynys Calero.
Taleithiau
[golygu | golygu cod]Rhennir Costa Rica yn saith talaith. Rhennir y taleithiau i 81 cantón, gyda maer yn gyfrifol am bob un. Rhennir pob cantón ymhellach i ardaloedd (distritos), 463 ohonynt i gyd.
Talaith | Prifddinas | Cantonau | Distritos | Arwynebedd (km²) | Poblogaeth* | ||
---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | Alajuela | Alajuela | 15 | 108 | 9.757,53 | 716.286 | |
2 | Cartago | Cartago | 8 | 48 | 3.124,67 | 432.395 | |
3 | Guanacaste | Liberia | 11 | 59 | 10.140,71 | 264.238 | |
4 | Heredia | Heredia | 10 | 46 | 2.656,98 | 354.732 | |
5 | Limón | Limón | 6 | 27 | 9.188,52 | 389.295 | |
6 | Puntarenas | Puntarenas | 11 | 57 | 11.265,69 | 357.483 | |
7 | San José | San José | 20 | 118 | 4.965,90 | 1.345.750 | |
* Censo del año 2000 |
|