Coluddyn crog
1: Y geg 2: Taflod 3: Tafod bach 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Isdafodol 8: Isfandiblaidd 9: Parotid 10: Argeg (ffaryncs) 11: Sefnig (esoffagws) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Prif ddwythell y bustl 15: Stumog | 16: Cefndedyn (pancreas) 17: Dwythell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag (jejwnwm) 21: Glasgoluddyn (ilëwm) 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon trawslin 25: Colon esgynnol 26: Coluddyn dall (caecwm) 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rhefr: rectwm 30: Rhefr: anws |
Darn bach o gnawd, rhwng y coluddyn mawr a'r coluddyn bach, ydy'r coluddyn crog (Saesneg: Vermiform appendix neu appendix ar lafar). Nid ydy gwyddoniaeth hyd yma wedi darganfod ei bwrpas. Mewn rhai pobl, mae'n chwyddo neu'n 'llidio', a'r unig ateb ydy ei dynnu drwy lawdriniaeth mewn ysbyty; naill ai laparotomi neu laparoscopi. Heb driniaeth, mae cleifion yn marw o lid y ffedog a sioc.
Troi'n llidiog
[golygu | golygu cod]- Prif: Llid y coluddyn crog
Yn dilyn llawer o arbrofion, mae'n ymddangos mai rhyw rwystr yn 'lwmen' y coluddyn crog sy'n ei achosi i droi'n llidiog ac i ffyrnigo.[1] Cyn gynted mae'r rhwystr yma'n digwydd, mae'n llenwi gyda mwcws ac yn chwyddo (hynny yw, yn troi'n llidiog). Mae'r pwysedd y tu mewn i'r lwmen yn cynyddu gan greu thrombosis ac achludiad yn y pibelli bychain. Ar adegau prin iawn, fe all cleifion wella ei hun. Os nad, yna mae'r bacteria yn dechrau gollwng drwy'r waliau tenau (sydd eisoes yn dechrau marw) gan achosi llid y ffedog. Os yw hwnnw, wedyn, yn dwysáu ac yn gwaethygu, mae'n troi'n wenwyn yn y gwaed (neu 'septisimia') a marwolaeth yn ei ddilyn.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Awdur: Wangensteen OH, Bowers WF; 'Significance of the obstructive factor in the genesis of acute appendicitis' yn ei gyfrool Arch Surg; cyfrol 34; tud: 496-, 1937