Chefchaouen
Math | dinas, urban commune of Morocco |
---|---|
Poblogaeth | 46,168 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | CET |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Talaith Chefchaouen |
Gwlad | Moroco |
Uwch y môr | 564 metr |
Cyfesurynnau | 35.1714°N 5.2697°W |
Cod post | 91000 |
Dinas ym Moroco yw Chefchaouen (Berbereg: Accawn, Arabeg: الشاون, Sbaeneg: Chauen). Cyfeirir ati ar lafar fel Chaouen hefyd. Fe'i lleolir ym mynyddoedd y Rif yng ngogledd-orllewin Moroco, i'r de o Tanger a heb fod nepell o ddinas Tétouan. Poblogaeth: 35,709 (2004).
Sefydlwyd Chefchaouen yn 1471, pan godwyd ei chastell gan Morisgiaid alltud o Sbaen - yn Arabiaid ac Iddewon - dan arweinyddieth Moulay Ali Ben Moussa Ben Rached El Alami, ac fe'i defnyddiwyd i wrthsefyll goresgyniad gogledd Moroco gan y Portiwgaliaid.
Yn 1920, cipwyd Chefchaouen gan Sbaen a daeth yn rhan o'r Moroco Sbaenaidd. Rhoddodd Sbaen y ddinas yn ôl i Foroco yn 1956 pan enillodd y wlad ei hannibyniaeth.
Mae'r dref yn adnabyddus am ei farchnad hashish, ffurf wedi'i brosesu o'r kif (canabis) a dyfir ar raddau eang ym mynyddoedd y Rif.