Chalcedon
Gwedd
Math | dinas hynafol, polis ![]() |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Sir | Kadıköy ![]() |
Gwlad | Twrci ![]() |
Cyfesurynnau | 40.98°N 29.03°E ![]() |
![]() | |
Dinas yn nhalaith Bithynia yn y cyfnod clasurol oedd Chalcedon (Groeg: Χαλκηδών). Roedd bron gyferbyn a dinas Caergystennin yr ochr arall i'r culfor, ac erbyn hyn mae'n rhan o Istanbul, Twrci.
Sefydlwyd y ddinas fel gwladychfa gan y Megariaid. Gadawodd Attalus III, brenin Pergamum y ddinas i Weriniaeth Rhufain yn ei ewyllys yn 133 CC. Yn 361. yma y cynhaliwyd Tribwnlys Chalcedon, pan roddodd yr ymerawdwr Rhufeinig Julian ei elynion ar eu prawf. Yn 451 cynhaliodd yr Eglwys Gristnogol gyngor yma, Cyngor Chalcedon.