Neidio i'r cynnwys

Cendl

Oddi ar Wicipedia
Cendl
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,866, 2,693 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBlaenau Gwent Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd343.88 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.797°N 3.206°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04001043 Edit this on Wikidata
Cod postNP23 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruAlun Davies (Llafur Cymru)
AS/au y DUNick Smith (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Blaenau Gwent, Cymru, yw Cendl[1] (Saesneg: Beaufort).[2] Saif ym mhen uchaf Cwm Ebwy Fawr, ac erbyn hyn mae'n un o faestrefi Glynebwy. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 10,328.

Daw'r enw Cymraeg o enw Edwards Kendall, a gymerodd brydles yno yn 1782 ar gyfer gwaith haearn. Yn ddiweddarach, daeth Crawshay Bailey yn berchennog y gwaith yma. Daeth Capel Annibynnol Carmel yn adnabyddus.[3] Roedd hwn wedi ei gynllunio gan y Parchedig Thomas Thomas, Abertawe, a bu Thomas Rees yn weinidog arno.

Theatr gymunedol Cendl

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Alun Davies (Llafur Cymru) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Nick Smith (Llafur).[4][5]

Y Gymraeg

[golygu | golygu cod]

Yn ôl Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011, mae 8.1% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg. Mae 301 o bobl yn gallu siarad Cymraeg, mae 311 o bobl yn gallu darllen Cymraeg, ac mae 261 o bobl yn gallu ysgrifennu Cymraeg. Yn 2001, roedd 11.7% o'r boblogaeth yn medru'r Gymraeg.[6]


Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cendl (pob oed) (3,866)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cendl) (301)
  
8.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cendl) (3526)
  
91.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Cendl) (684)
  
42.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 9 Rhagfyr 2021
  3. Rees, Abertawe, Thomas; Thomas, Lerpwl, John (1871). "Carmel, Cendl" . Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1. Lerpwl: Swyddfa'r drych. tt. 152–162.
  4. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  6. "The Changing Face of Wales - Welsh Speakers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-01. Cyrchwyd 2013-03-24.
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]