Cais
Enghraifft o'r canlynol | sports terminology, score, scoring system |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn gêm rygbi'r undeb neu rygbi'r gynghrair, cais yw'r prif ffordd o sgorio pwyntiau. Sgorir cais drwy osod y bêl ar y llawr ar linell gôl y gwrthwynebwyr neu du hwnt iddo. Daw'r term cais o'r syniad o geisio sgorio gôl, sy'n awgrymu yn wreiddiol fod gosod y bel ar y llawr dim ond yn rhoi'r cyfle i geisio sgorio drwy gicio at y gôl.
Gwerth cais mewn pwyntiau
[golygu | golygu cod]Ers 1983, yn rygbi'r gynghrair, mae cais yn gyfwerth i bedwar pwynt. Cyn hynny, arferai cais fod yn werth tri phwynt. Yn rygbi'r undeb, mae cais yn werth pump o bwyntiau; mae gwerth cais o ran y nifer o bwyntiau wedi amrywio dros amser. Er fod cais yn werth llai o bwyntiau yn rygbi'r gynghrair, dyma'r prif ffordd o sgorio gan amlaf. Yn rygbi'r undeb fodd bynnag mae ennill pwyntiau'n dibynnu'n helaeth ar gôlau.