Cabinet y Deyrnas Unedig
Enghraifft o: | government committee |
---|---|
Math | cabinet |
Rhan o | Llywodraeth y Deyrnas Unedig |
Dechrau/Sefydlu | 1644 |
Isgwmni/au | Joint Intelligence Committee, Joint Intelligence Committee, Committee of Imperial Defence, War Cabinet (First World War), War Cabinet (Second World War), War Cabinet (Falklands War), National Security Council |
Rhiant sefydliad | Cyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig |
Pencadlys | 10 Stryd Downing |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | http://www.cabinet-office.gov.uk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cabinet y Deyrnas Unedig ydy'r corff sy'n gwneud penderfyniadau ar ran Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ac sy'n cynnwys 22 o aelodau ynghyd â Prif Weinidog y Deyrnas Unedig.
Gelwir yr aelodau hyn, a etholwyd o blith aelodau seneddol Tŷ'r Cyffredin ac o Dŷ'r Arglwyddi, yn Weinidogion y Goron a chânt eu dewis gan y Prif Weinidog. Fel rhan o'u gwaith, caiff y Gweinidogion y cyfrifoldeb o fod yn bennaethiaid ar Adrannau o'r Llywodraeth gyda'r teitl "Y Gweinidog dros ... (Amaeth, Amddiffyn)" ac yn y blaen. Mae aelodau'r Cabinet, ar wahân i'r Prif Weinidog, ar yr un lefel a'i gilydd.[1]
Yn draddodiadol, y Cabinet yw'r corff uchaf o ran gwneud penderfyniadau o fewn system llywodraethu San Steffan. Gwelir gwreiddiau'r system gyfansoddiadol hon yng ngwaith arloeswyr megis Walter Bagehot, a ddisgrifiodd y Cabinet fel "cyfrinach effeithiol" system wleidyddol Prydain yn ei lyfr The English Constitution. Dros y degwadau diwethaf, fodd bynnag, gwelwyd lleihau pwer y Cabinet gan drosglwyddo llawer o'i bwerau i'r Prif Weinidog.[2]
Hanesyddol
[golygu | golygu cod]Mae gwreiddau'r Cabinet yn gorwedd yng nghyfnod Senedd Lloegr, sef yn y cyfnod cyn creu Teyrnas Prydain Fawr a'r Deyrnas Unedig a'i dilynodd. Hyd at 16g penodwyd Swyddogion Gwladwriaethol gan Goron Lloegr, yn unigol, gydag eiddo, pwer a chyfrifoldebau eu hunain. Yr unig gorff ar y lefel hwn oedd Cyfrin-gyngor Lloegr. Ar ddiwedd y 16g gwelwn gyfeirio mewn dogfennau at "cabinet council", sef cyngor a roddwyd i'r brenin neu'r frenhines, yn breifat, mewn ystafell fechan (cabinet). Mae'r Oxford English Dictionary yn tadogi'r enw i Francis Bacon a'i Essays (1605) gan fyny mai ef a fathodd y term. Ond yma, mae Bacon yn ei ddefnyddio yng nghyd-destun gwledydd tramor ac yn difrio'r cysyniad fel "remedi oedd yn waeth na'r glefyd ei hun."[3]
Yng nghyfnod Senedd Prydain Fawr, sefydlodd Siarl I, brenin Lloegr a'r Alban "Cabinet Council" swyddogol ym 1625, i weithredu fel ei gyngor-cyfrin (neu gyngor preifat) a defnyddir y gair "y Cabinet" am y tro cyntaf ym 1644 - unwaith eto, mewn modd dilornus, estronol.[4]
Ers dyddiau Siôr I y Cabinet yw prif grwp llywodraethol Llywodraeth Prydain (Llywodraeth Prydain Fawr yn y cyfnod hwnnw). Credir iddo ef a'i fab fabwysiadu'r dull tramor hwn o weithredu'n bennaf gan mai ail-iaith oedd y Saesneg iddynt ac y gwyddant fwy am drefn gwleidyddiaeth gwledydd eraill nag am un Lloegr.
I'r Prif Weinidog a'r Cymro David Lloyd George mae'r diolch am roi trefn ar y Cabinet, fodd bynnag, a'i system weithredol. Yn ystod ei gyfnod fel Prif Weinidog y DU (1916–1922) gwelwyd sefydlu "Cabinet Office" ac Ysgrifennydd, strwythur ffurfiol i'r pwyllgorau, cofnodion nad oeddent yn cael eu cyhoeddi a pherthynas clir a phendant rhwng Gweinidogion y gwahanol Adrannau. Y drefn hon a ddefnyddir heddiw.
Rhestr o aelodau'r cabinet presennol
[golygu | golygu cod]Penodwyd Cabinet Johnson, yn wreiddiol, yng Ngorfennaf 2019.
Rhestr Wicidata:
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ministers of the Crown Act 1975 s 3
- ↑ Foley, Michael, 2000 - The British Presidency tud. 13–14 drwy Google Books
- ↑ Bacon, Essay "On Counsel" "For which inconveniences, the doctrine of Italy, and practice of France, in some kings’ times, hath introduced cabinet counsels; a remedy worse than the disease."
- ↑ OED Cabinet