Brwydr Prydain
Awyren ymladd Spitfire o'r Awyrlu Brenhinol (isod) yn ymosod ar awyren fomio He 111 o'r Luftwaffe yn ystod Brwydr Prydain. | |
Math o gyfrwng | air battle |
---|---|
Dyddiad | 1940 |
Rhan o | yr Ail Ryfel Byd |
Dechreuwyd | 10 Gorffennaf 1940 |
Daeth i ben | 31 Hydref 1940 |
Lleoliad | y Deyrnas Unedig |
Yn cynnwys | Adlertag |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ymgyrch filwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd Brwydr Prydain a ymladdwyd yn haf 1940 rhwng y Deyrnas Unedig a'r Almaen Natsïaidd dros reolaeth awyrennol ynys Prydain Fawr. Hon yw'r ymgyrch fawr gyntaf erioed i'w hymladd yn gyfan gwbl gan luoedd yn yr awyr. O Fehefin i Fedi 1940, lansiwyd cyrchoedd awyr gan y Luftwaffe—awyrlu'r Almaen—ar safleoedd milwrol yn ne-ddwyrain Lloegr, a llwyddodd yr Awyrlu Brenhinol (RAF) ac Adran Awyr y Llynges Frenhinol i wrthsefyll yr ymosodiadau hynny. Wedi buddugoliaeth Prydain, cychwynnodd y Luftwaffe ymgyrch fomio strategol—a elwir y Blitz—ar ddinasoedd ar draws y Deyrnas Unedig, yn enwedig Llundain, a barodd hyd at Ebrill 1941.
Wedi cwymp Ffrainc i'r Almaen a gwacâd Dunkerque ym Mai–Mehefin 1940, meddai Winston Churchill, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig mewn araith i Dŷ'r Cyffredin: "Mae'r hyn a alwodd y Cadfridog Weygand yn Frwydr Ffrainc drosodd. Rwy'n disgwyl bod Brwydr Prydain ar fin dechrau." Nod yr Almaenwyr oedd i orfodi'r Prydeinwyr i ymbil am heddwch, ac at y diben hwnnw ceisiodd y Kriegsmarine—llynges yr Almaen—a'r Luftwaffe warchae o'r môr a'r awyr ar luoedd y Deyrnas Unedig ym Môr Udd yng Ngorffennaf 1940. Canolbwyntiodd y Luftwaffe i ddechrau ar longau'r Llyngres Frenhinol yn hebrwng llongau nwyddau ar hyd arfordir deheuol Lloegr, yn ogystal â phorthladdoedd megis Portsmouth.
Ar 1 Awst, gorchmynnwyd i'r Luftwaffe ennill uchafiaeth awyrennol ar yr Awyrlu Brenhinol, gyda'r nod o analluogi Rheolaeth Awyrennau Ymladd yr RAF. Deuddeng niwrnod yn ddiweddarach, dechreuodd y Luftwaffe fomio meysydd awyr ac adeiladau'r RAF, ac wrth i'r frwydr barhau daeth i gynnwys ffatrïoedd awyrennau ac isadeiledd strategol yn ei targedau. Ym Medi 1940, cychwynnodd y Luftwaffe ar ymgyrch hir o fomio ardaloedd trefol, gan gynnwys Llundain, Lerpwl, Kingston upon Hull, Bryste, Caerdydd, Portsmouth, Plymouth, Southampton, Abertawe, Belffast, Glasgow, Birmingham, Coventry, Manceinion, a Sheffield. Yn y cyfnod o 7 Medi 1940 i 11 Mai 1941, bu farw rhyw 40,000 o ddinasyddion y Deyrnas Unedig o ganlyniad i'r Blitz, a dinistrwyd dwy filiwn o dai. Er yr oedd yno fwy o awyrennau'r RAF nag o'r Luftwaffe, byddai'r Prydeinwyr yn drech na'r Almaenwyr o ganlyniad i'w tactegau a thechnoleg amddiffyn.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Battle of Britain. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Medi 2022.