Braich
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o: | israniad organeb, dosbarth o endidau anatomegol ![]() |
---|---|
Math | isran o'r corff cardinal, endid anatomegol arbennig ![]() |
Rhan o | braich ![]() |
Cysylltir gyda | ysgwydd, llaw ![]() |
Yn cynnwys | elin, rhan ucha'r fraich ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/0e/Upperarm.jpg/250px-Upperarm.jpg)
Aelod uchaf mamolion deudroed yw braich, wedi'i lleoli rhwng yr ysgwydd a'r llaw. Mae'r gair Cymraeg braich yn gytras â bregh, brygh yn y Gernyweg a brec'h yn y Llydaweg ac mae'r tri gair hyn yn tarddu o'r gair Lladin bracchium.[1] Fe'i cofnodir yn Gymraeg mor bell yn ôl â 1200: '..hyd nes y cyrhaeddodd at hyd braich...'.
Anatomi
[golygu | golygu cod]![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/7/7a/Leonardo_da_Vinci_-_RCIN_919000%2C_Verso_The_bones_and_muscles_of_the_arm_c.1510-11.jpg/200px-Leonardo_da_Vinci_-_RCIN_919000%2C_Verso_The_bones_and_muscles_of_the_arm_c.1510-11.jpg)
Mae'r fraich yn cynnwys 30 asgwrn, cymalau, cyhyrau a gwythiennau gwaed. Mae'r rhan fwyaf o'r cyhyrau'n cael eu defnyddio'n ddyddiol i wneud tasgau dyddiol, arferol.
Yr esgyrn
[golygu | golygu cod]![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/49/Human_arm_bones_diagram.svg/284px-Human_arm_bones_diagram.svg.png)
Yn bôn y fraich ceir asgwrn a elwir yn hwmerws. Mae'n cyfarfod y balfais ychydig yn uwch na chymal yr ysgwydd a chyda'r wlna a'r radiws yn y cymal penelin.
Mae'r hwmerws yn asgwrn cryf iawn a gall godi, ar gyfartaledd, 300 pwys.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Henry Lewis, Yr Elfen Ladin yn yr iaith Gymraeg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1943), penodau 4, 80.