Bob Denard
Bob Denard | |
---|---|
Ganwyd | 7 Ebrill 1929 Grayan-et-l'Hôpital |
Bu farw | 13 Hydref 2007 o clefyd Alzheimer Paris |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | hurfilwr, person milwrol |
Gwobr/au | Croix de guerre des théâtres d'opérations extérieures, Croix du combattant volontaire de la Résistance, Croix du combattant, Overseas Medal, Indochina Campaign commemorative medal, Congolese Order of Merit, Q65134116 |
Milwr hur o Ffrancwr oedd Bob Denard (7 Ebrill 1929 – 13 Hydref 2007), efallai yr enwocaf o filwyr hur yr 20g.
Ganed ef yn Bordeaux, Aquitaine fel Gilbert Bourgeaud. Defnyddiai ef ei hun yr enw "Cyrnol Denard", a defnyddiai hefyd yr enw "Said Mustapha Mahdjoub". Gwasanaethodd yn y Fyddin Ffrengig yn Rhyfel Cyntaf Indo-Tsieina ac yn Algeria ac fel plismon yn Morocco cyn troi'n filwr hur yn y 1960au. Bu ganddo ef a'r milwyr oddi tano ran mewn rhyfeloedd neu ymgais i wrthdroi'r llywodraeth yn Biafra, Gabon, Angola, Saïr, Simbabwe, Benin, Gogledd Yemen ac Iran.
Cysylltir ef yn arbennig ag ynysoedd Comoros, lle bu a rhan mewn pedair ymgais i wrthdroi'r llywodraeth. Wedi iddi orfodi'r Arlywydd Ahmed Abdallah o'i swydd yn 1975, cynorthwyodd ef i ennill grym yn ôl yn 1978, gyda dim ond 50 o filwyr. Arhosodd ef a 30 o filwyr fel gwarchodlu personol Ahmed Abdallah, a daeth yn ddinesydd y Comoros. I bob pwrpas, Denard oedd yn rheoli. Pan ddaeth François Mitterrand yn Arlwydd Ffrainc yn 1981, collodd Denard gefnogaeth Ffrainc. Yn 1989 bu cweryl yn y Comoros, a lladdwyd yr arlywydd Ahmed Abdallah. Ystyrid bod Denard yn gyfrifol, a chymerodd Ffrainc ef i'r ddalfa yn 1991. Yn 1993 dedfrydodd llys ym Mharis ef i bum mlynedd o garchar am ei ran mewn ymgais i wrthdroi llywodraeth Benin yn 1977.
Ceisiodd Denard gipio grym yn y Comoros unwaith eto yn 1995, ond gyrrodd Jacques Chirac filwyr i gefnogi'r llywodraeth. Yn 1999 rhoddwyd ef ar ei brawf ym Mharis am lofruddio Ahmed Abdallah, ond oherwydd diffyg prawf, cafwyd ef yn ddieuog. Bu'n briod a chwech o ferched a bu ganddo saith o blant.