Bat'leth
Gwedd
Math | fictional sword |
---|---|
Màs | 5.3 cilogram |
Cleddyf seremonïol, crwm gyda gafaelion ar y cefn yw'r bat'leth. Cafodd ei greu gan gynhyrchydd effeithiau gweledol Star Trek: The Next Generation (Dan Curry), ar gyfer Star Trek. Mae'n cael ei ddefnyddio yn bennaf o fewn canon gan y Klingons, hil yn y fasnachfraint. Mae'n cael ei ystyried yn ddelwedd eiconig o Star Trek a cheir replicas ar-lein ac yn fyd-eang. Maent hefyd wedi cael eu defnyddio mewn troseddau.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae bat'leth yn cynnwys llafn crwm gydag allwthiadau pigog ar ei ddeupen a gyda gafaelion ar hyd canol y llafn; mae tua phum troedfedd o hyd.[1] Mae'r gafaelion yn cael eu defnyddio i droi'r llafn yn gyflym;[2] gall yr arf gael ei ddefnyddio gyda naill ai un neu ddwy law.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.thesun.co.uk/sol/homepage/news/49507/Star-Trek-blade-seized.html
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-02-03. Cyrchwyd 2012-11-02.