Neidio i'r cynnwys

Basileios II

Oddi ar Wicipedia
Basileios II
Ganwyd958 Edit this on Wikidata
Caergystennin Edit this on Wikidata
Bu farw15 Rhagfyr 1025 Edit this on Wikidata
Caergystennin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethymerawdwr Edit this on Wikidata
SwyddYmerawdwr Bysantaidd Edit this on Wikidata
TadRomanos II Edit this on Wikidata
MamTheophano Edit this on Wikidata
LlinachMacedonian dynasty Edit this on Wikidata

Ymerawdwr Bysantaidd rhwng 976 a 1025 oedd Basileios II, hefyd Basil II (Groeg: Βασίλειος Β΄ Βουλγαροκτόνος, Basileios II Boulgaroktonos, "lladdwr y Bwlgariaid" (958 - 15 Rhagfyr 1025). Cyrhaeddodd yr Ymerodraeth Fysantaidd un o uchafbwyntiau ei grym yn ystod ei deyrnasiad ef.

Roedd Basileios yn fab i'r ymerawdwr Romanos II, ond bu ei dad farw yn 963 pan nad oedd ond pump oed. Ail-briododd ei fam, Theophano, ag un o gadfridogion Romanos, a ddaeth yn ymerawdwr fel Nikephoros II Phokas. Llofruddiwyd Nikephoros yn 969, a daeth cadfridog arall, Ioan I Tzimisces, yn ymwerawdwr. Erbyn iddo ef farw ar 10 Ionawr, 976, roedd Basileios yn ddigon hen i ddod i'r orsedd,

Ar ddechrau ei deyrnasiad, roedd gweinyddiaeth yr ymerodraeth yn nwylo yr eunuch Basileios Lekapenos, oedd yn fab anghyfreithlon i'r ymerawdwr Romanos I). Roedd dau o dirfeddianwyr mawr Asia Leiaf, Bardas Skleros a Bardas Phokas, mewn gwrthryfel yn erbyn yr ymerodraeth. Arweiniodd Basileios y fyddin yn eu herbyn a'u gorchfygu, Skleros yn 979 a Phokas yn 989. Gwnaeth gynghrair a Vladimir I, tywysog Kiev, a yrrodd lawer o filwyr iddo. Yn fuan wedyn, alltudiwyd Basileios Lekapenos.

Roedd Basileios yn filwr galluog, a bu'n ymladd llawer yn erbyn yr Arabiaid, oedd yn gwarchae ar Aleppo ac yn bygwth Antioch. Enillodd Basileios nifer o fwydrau yn eu herbyn yn Syria yn 995, gan anrheithio dinasoedd cyn belled a Tripoli ac ychwanegu'r rhan fwyaf o Syria at yr ymerodraeth.

Bu'n ymladd llawer yn erbyn Samuil, ymerawdwr Bwlgaria hefyd, gan warchae ar Sredets (Sofia) yn 986. Methodd gipio'r ddinas, a gorchfygwyd ef ym Mrwydr Trayanovi Vrata ar y ffordd yn ôl i Thrace. Collwyd Moesia i'r Bwlgariaid am gyfnod, ond gallodd Basileios ei hennill yn ôl yn 1001 - 1002. Cipiodd Skopje yn 1003 a Durazzo yn 1005. Ar 29 Gorffennaf, 1014, enillodd Basileios fuddugoliaeth fawr dros y Bwlgariaid ym Mrwydr Kleidion. Dywedir iddo gymeryd 15,000 o garcharorion, a dallu 99 o bob cant ohonynt. Ildiodd Bwlgaria yn derfynol yn 1018, ac yn ddiweddarach ildiodd y Serbiaid hefyd, gan ddod â ffin yr ymerodraeth at Afon Donaw am y tro cyntaf mewn pedair canrif. Bu hefyd yn ymladd yn erbyn y Khazar, a chipiodd dde y Crimea oddi wrthynt.

Yn ddiweddarach, bu'n ymladd yn erbyn y Persiaid, gan ennill Armenia yn ôl i'r ymerodraeth am y tro cyntaf ers dwuy ganrif. Concrwyd rhan o dde yr Eidal hefyd, a phan fu Basileios farw ar 15 Rhagfyr 1025, roedd ar ganol cynllunio ymgyrch i ad-ennill ynys Sicilia.

Rhagflaenydd :
Ioan I Tzimiskes
969 - 976
Ymerodron Bysantaidd
Basileios II
976 - 1025
Olynydd :
Cystennin VIII Porphyrogentius
1025 - 1028