Barwnigiaid Williams-Wynn
Teitl ym Marwnigiaeth Lloegr yw Barwnigaeth Williams', ac yn ddiweddarach Barwnigaeth Williams-Wynn, o Gray's Inn yn Middlesex. Crewyd ar 6 Gorffennaf 1688 ar gyfer y gwleidydd a'r cyfreithiwr William Williams. Gwasanaethodd fel Llefarydd Tŷ'r Cyffredin rhwng 1680 ac 1681. Cynyrchilodd yr ail Farwnig Dinbych yn y Tŷ Cyffredin. Eisteddodd y trydydd fel Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych, ac yn Jacobiad blaenllaw. Roed yn ŵr i Jane (Thelwall gynt), hen-wyres Syr John Wynn, Barwnig 1af Gwydir. Roedd Syr John Wyn yn etifeddwr yn lliniach gwrywol tŷ tywysogaidd Aberffraw, trwy ei hynafiad Owain Gwynedd, ac yn ymhonnwr i'r teitl Tywysog Cymru. Etifeddodd ystadau Wynnstay trwy ei wraig yn 1718, ar farwolaeth Syr John Wynn, 5ed Barwnig Gwydir (gweler Barwnigion Wynn), a cymerodd yr ail gyfenw, Wynn, yr un flwyddyn.
Cynyrchiolodd y pedwerydd Barwnig Swydd Amwythig a Sir Ddinbych yn y senedd ac Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd. Eisteddodd y pumed Barwnig dros Biwmares a Sir Ddinbych a hefyd yn Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd. Roed y chweched yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros Sir Ddinbych am dros 40 mlynedd. Eisteddodd y seithfed Barwnig fel Aelod Seneddol dros Sir Ddinbych am gyfnod byr yn 1885 cyn i'r etholaeth gael ei ddiddymu. Roedd yr wythfed Barwnig yn Arglwydd Raglaw Sir Ddinbych. Roedd y degfed Barwnig yn Arglwydd Raglaw Sir Ddinbych a Clwyd.
Cafodd hen-wyr ail fab y Barwnig cyntaf, John Williams, ei greu'n Farwnig Bodelwyddan, yn 1798 (gweler Barwnigion Williams am fwy o wybodaeth). Roedd y gwleidydd blaenllaw Charles Watkin Williams-Wynn yn ail fanb i'r pedwerydd Barwnig. Roedd ei hen-wyr ef, John Francis Williams-Wynne yn Arglwydd Raglaw Sir Feirionnydd a Gwynedd.
Honnai rhai fod perthnasau byw o'r teulu Wynn yn byw yn yr Unol Daleithiau, sy'n honni i fod yn ddisgynyddion Owen Wynn neu Hugh Wynn, sydd i fod wedi ymfudo yno yn yr 17g. Er, ni chysidrir ffynonellau'r honiadau rhain i fod yn ddibynadwy, mae'r cysylltiadau wedi cael eu creu yn ddiweddarach yn ôl pob tebygrwydd.[1] Os oedd unrhyw feibion neu wyrion o Owen Wynn yn fyw yn 1719, mi fuasen nhw wedi etifeddu'r Farwnigiaeth. Ni hawliodd neb y teitl felly mae'n debyg nad oedd meibion na wyrion i Owen Wynn yn byw yn Lloegr Newydd.
Barwnigion Williams, ac yn ddiwddarach Williams-Wynn, o Gray's Inn (1688)
[golygu | golygu cod]- Syr William Williams, Barwnig 1af (tua 1634–1700)
- Syr William Williams, 2il Barwnig (c. 1665–1740)
- Syr Watkin Williams-Wynn, 3ydd Barwnig (1692–1749)
- Syr Watkin Williams-Wynn, 4ydd Barwnig (1749–1789)
- Syr Watkin Williams-Wynn, 5ed Barwnig (1772–1840)
- Syr Watkin Williams-Wynn, 6ed Barwnig (1820–1885)
- Syr Herbert Lloyd Watkin Williams-Wynn, 7fed Barwnig (1860–1944)
- Syr Watkin Williams-Wynn, 8fed Barwnig (1891–1949)
- Syr Robert William Herbert Watkin Williams-Wynn, 9fed Barwnig (1862–1951)
- Syr (Owen) Watkin Williams-Wynn, 10fed Barwnig (1904–1988)
- Syr (David) Watkin Williams-Wynn, 11fed Barwnig (ganed 1940)
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Kidd, Charles, Williamson, David (gol.). Debrett's Peerage and Baronetage (rhifyn 1990). New York: St Martin's Press, 1990.
- Tudalen Penefigaeth Leigh Rayment Archifwyd 2008-05-01 yn y Peiriant Wayback