Barbeciw
Enghraifft o'r canlynol | dull o goginio, coginio |
---|---|
Yn cynnwys | grate |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae barbeciw neu barbiciw yn ddull o goginio, yr offer neu declyn sy'n cael ei ddefnyddio i goginio, y math o fwyd sydd wedi'i goginio felly, ac yn enw ar gyfer pryd neu ddigwyddiad ble mae'r math hwn o fwyd yn cael ei goginio a'i weini.
Technegau
[golygu | golygu cod]Mae technegau barbeciwio yn cynnwys mygu, rhostio neu bobi, brywsio a grilio. Y dechneg wreiddiol yw coginio gan ddefnyddio mwg ar dymheredd isel a thros gyfnod hir o amser (oriau lawer).
Mae barbeciwio fel arfer yn weithgaredd awyr agored trwy fygu'r cig dros bren neu golosg. Gall barbeciw bwyty gael ei goginio mewn popty mawr o fricsen neu fetel sydd wedi'i ddylunio yn arbennig. Mae barbeciw yn cael ei gynnal mewn nifer o ardaloedd o amgylch y byd ac mae nifer o amrywiaethau rhanbarthol.
Tarddiad enw
[golygu | golygu cod]Mae'r gair "barbeciw" yn tarddu o'r gair Saesneg barbeque sydd yn ei dro yn tarddu o'r gair Sbaeneg barbacoa. Credir bod y gair hwnnw wedi tarddu o barabicu sydd i'w ganfod yn iaith Arawak pobl y Caribî a phobl Timucua Florida.