Neidio i'r cynnwys

Baldassare Castiglione

Oddi ar Wicipedia
Baldassare Castiglione
Portread o Baldassare Castiglione (1514/15) gan Raffael
Ganwyd6 Rhagfyr 1478 Edit this on Wikidata
Marcaria, Casatico Edit this on Wikidata
Bu farw8 Chwefror 1529 Edit this on Wikidata
Toledo Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDugiaeth Milan Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiplomydd, bardd, llenor, hanesydd celf Edit this on Wikidata
Arddulltraethawd, epistolary fiction, elegy Edit this on Wikidata
Mudiadyr Uchel Ddadeni Edit this on Wikidata
TadCristoforo Castiglione Edit this on Wikidata
MamLuigia Gonzaga Edit this on Wikidata
PriodIppolita Torelli Edit this on Wikidata
PlantCamillo Castiglione Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Castiglione Edit this on Wikidata

Diplomydd, gŵr llys, a llenor o'r Eidal yn ystod y Dadeni oedd Baldassare Castiglione (6 Rhagfyr 14782 Chwefror 1529)[1] sy'n enwocaf am ei lyfr cwrteisi Il libro del cortegiano (1528).[2]

Ganwyd yn Casatico yn ardal Mantova i deulu bonheddig. Cafodd ei addysg yn ysgol ddyneiddiol Giorgio Merula a Demetrius Chalcondyles, ac yn llys Ludovico Sforza ym Milan. Dychwelodd i Mantova ym 1499 i weithio i'r ardalydd Francesco Gonzaga, ac ym 1504 fe symudodd i weithio i Guidobaldo da Montefeltro, Dug Urbino. Cafodd ei ddanfon i Rufain ym 1513 fel llysgennad y dug newydd, Francesco Maria della Rovere, ac yn ddiweddarach fe weithiodd i'r pab. Aeth i Sbaen ym 1525 fel llysgennad y pab, ac yno y bu farw yn Toledo.

Ysgrifennodd Il libro del cortegiano yn y cyfnod 1513–18, a chyhoeddwyd y llyfr yn Fenis ym 1528. Ffurf ymgom sydd i'r gwaith, ac ymddangosa cyfeillion yr awdur, gan gynnwys Pietro Bembo, Ludovico da Canossa, Bernardo da Bibbiena, a Gasparo Pallavicino, yn trafod nodweddion y llyswr delfrydol: graslonrwydd, sprezzatura, hwyl, huodledd, ac anrhydedd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Guido Rebecchini (2002). Private Collectors in Mantua, 1500-1630. Ed. di Storia e Letteratura. t. 100. ISBN 978-88-8498-049-6.
  2. O. Classe; [Anonymus AC02468681] (2000). Encyclopedia of Literary Translation Into English: A-L. Taylor & Francis. t. 234. ISBN 978-1-884964-36-7.