Neidio i'r cynnwys

Azilal

Oddi ar Wicipedia
Azilal
Mathurban commune of Morocco Edit this on Wikidata
Poblogaeth48,138 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Azilal Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Uwch y môr1,351 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.96°N 6.56°W Edit this on Wikidata
Map

Dinas fechan ym Moroco yw Azilal (Arabeg: أزيلا), a leolir ym mynyddoedd yr Atlas Uchel yng nghanolbarth y wlad, tua 130 km i'r dwyrain o ddinas Marrakech. Mae'n ganolfan weinyddol Talaith Azilal, yn rhanbarth Tadla-Azilal. Uchder: 1351 metr. Poblogaeth: 30,023 (2005).

Mae Azilal yn fan cychwyn i fynyddwyr sydd am ddringo Ighil M'Goun (4071 m), un o'r copaon uchaf yn yr Atlas. Yng ngyffiniau Azilal ceir Rhaeadrau Ouzoud (Cascades d'Ouzoud), un o atyniadau mwyaf poblogaidd y rhan yma o'r Atlas.

Mae'r ddinas yn ganolfan cludiant lleol gyda ffyrdd yn ei chysylltu gyda Marrakech a Kénitra.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato