Asameg
Gwedd
Iaith Assam a rhannau cyfagos o ogledd-ddwyrain India yw'r Asameg. Mae'n perthyn i gangen ddwyreiniol yr ieithoedd Indo-Ariaidd. Ceir tua 13,079,000 o siaradwyr Asameg. Yn ogystal ag Assam, ceir siaradwyr Asameg yn rhan dde-ddwyreinol Bhwtan ac yn Arunachal Pradesh.