Archif Anna
Enghraifft o'r canlynol | gwefan, llyfrgell gysgodol, peiriant metachwilio |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 10 Tachwedd 2022 |
Gwefan | https://annas-archive.se/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Peiriant metachwilio ar gyfer llyfrgelloedd "cysgodol" (hynny yw, llyfrgelloedd digidol sy'n cynnwys deunydd nad ydynt ar gael yn rhwydd) yw Archif Anna[1]. Mae'n cynnig mynediad i lyfrau, papurau academaidd, comics a chylchgronau'n rhad ac am ddim. Mae gwefan yr archif, sy'n cael ei hariannu trwy roddion, yn cael ei rhedeg gan dîm anhysbys sy'n galw eu hunain yn "Anna" a thîm "Pirate Library Mirror (PiLiMi)". Yn ôl y wefan, mae'r archif yn cadw metadata ar dros 120 miliwn o weithiau.
Nod Archif Anna yw "catalogio pob llyfr sy'n bodoli" a sicrhau ei fod ar gael trwy'r InterPlanetary File System. Gweithredir y llyfrgell ddigidol gyda meddalwedd ffynhonnell agored. Nid yw'r wefan ei hun yn gartref i ddeunyddiau sydd â hawlfraint, ond mae'n cysylltu â mannau lle gellir eu llwytho i lawr.
Sefydlwyd yr archif yn 2023 mewn ymateb i arestiad gweithredwyr y llyfrgell Z-Library yn 2022[2] a'r atafaeliad dilynol o'u parthau cyhoeddus gan awdurdodau cyfiawnder yr Unol Daleithiau. Yn ogystal â Z-Library, mae'r llyfrgelloedd cysgodol Sci-Hub, Library Genesis ac eraill hefyd yn cael eu mynegeio a'u hadlewyrchu.
Mae gwaith yr archif yn ddadleuol. Ym mis Ionawr 2024 dechreuodd OCLC achos cyfreithiol yn ei herbyn;[3] mae cwynion hawlfraint mewn gwahanol wledydd,[4] ac mae rhai darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd wedi ei rwystro.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Archif Anna". cy.annas-archive.se. Cyrchwyd 2024-12-02.
- ↑ "Two Russian Nationals Charged with Running Massive E-Book Piracy Website", United States Attorney's Office; adalwyd 23 Tachwedd 2024
- ↑ "OCLC Inc. v. Anna's Archive", Casetext; adalwyd 23 Tachwedd 2024
- ↑ "Silenzio! ‘Anna’s Archive’ Shadow Library Blocked Following Publishers’ Complaint", TorrentFreak; adalwyd 23 Tachwedd 2024
- ↑ "Dutch Court Orders ISP to Block ‘Anna’s Archive’ and ‘LibGen’", TorrentFreak; adalwyd 23 Tachwedd 2024