Neidio i'r cynnwys

An Taibhdhearc

Oddi ar Wicipedia
An Taibhdhearc
Enghraifft o'r canlynoltheatr, sefydliad di-elw Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1928 Edit this on Wikidata
Map
RhanbarthGaillimh Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.antaibhdhearc.com Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Awditoriwm y theatr (2018)

Theatr iaith Wyddeleg genedlaethol Iwerddon yw An Taibhdhearc. Fe'i sefydlwyd ym 1928. Gelwir hefyd yn Taibhdhearc na Gaillimhe ac yn Amharclann Náisiúnta na Gaeilge.

Mae'r gair taibhdhearc yn ymddangos fel glòs ar gyfer y teatrum Lladin (theatr) mewn hen ddogfen Wyddeleg, sy'n deillio o wreiddiau sy'n golygu "breuddwyd" a "cipolwg", er, ceir amrywiaeth ar y cyfieithied fel 'ysbrydlyd/rhith' a 'golwg'.[1] Y Wyddeleg fodern ar gyfer theatr yw 'amharclann'.

Ar 27 Awst 1928, agorwyd y "Galway Gaelic Theatre", ac yn ddiweddarach "An Taibhdhearc", gyda drama "Diarmuid agus Gráinne", a berfformiwyd gan Micheál Mac Liammóir, drama a ysgrifenwyd yn wreiddiol yn y Saesneg ac yna ei chyfieithu i'r Wyddeleg.[2]

Fe'i sefydlwyd yn llawn yn Gaillimh yn 1929, ac mae wedi'i leoli ar Sráid Láir (Middle Street) yng nghanol y ddinas ers hynny. Roedd Earnán de Blaghd, y Gweinidog Cyllid yn 1927 yn fodlon rhoi grant i sefydlu’r theatr.

Siobhán McKenna, un o actoresau amlwg y theatre (1959)

Micheál Mac Liammóir oedd cyfarwyddwr cyntaf y theatr a dechreuodd nifer o gynhyrchwyr ac actorion enwog weithio ym myd drama yn y Taibhdhearc, megis Siobhán McKenna, Michael Lally, Frank Dermody, Walter Macken, Caitlín Maude. Ymhlith y dramodwyr y perfformiwyd eu dramâu yn y theatr mae Eoghan Ó Tuairisc, Mairéad Ní Gráda, Crisostóir O’Flynn, Breandán Ó Beacháin, ac Antaine Ó Flatartha.

Gwnaed cyfraniad sylweddol hefyd gan academyddion a myfyrwyr Coleg Prifysgol Galway a chefnogaeth milwyr bataliwn iaith Wyddelig Lluoedd Arfog Iwerddon (byddin y Gwladwriaeth Rydd Iwerddon ac yna Gweriniaeth Iwerddon).[3]

Lleoliad

[golygu | golygu cod]

Lleolir y Taibhdhearc yn 19 Middle Street, o fewn dinas ganoloesol Gaillimh (Galway). Mae wedi'i adeiladu ar adfeilion brodordy Urdd yr Awstiniaid gwreiddiol y ddinas. Mae'r wal gefn yn cynnwys wal o'r brodordy hwn, gan gynnwys rhai fframiau ffenestri carreg cerfiedig.

Lleoliad mewn gwyliau

[golygu | golygu cod]

Defnyddir y theatr ar gyfer cynyrchiadau drama a cherddoriaeth, ac weithiau mae'n dangos ffilmiau rhyngwladol. Y cyfnod prysuraf i’r celfyddydau yn ninas Gaillimh bob blwyddyn yw pythefnos Gŵyl Gelfyddydau Ryngwladol flynyddol y ddinas.

Defnyddir yr adeilad hefyd fel lleoliad yng Ngŵyl Gomedi Gaillimh a gynhelir yn flynyddol ym mis Hydref.[4] Bu hefyd yn leoliad ar gyfer digwyddiad 'Music at the Crossroads' a arferid ei chynnal ym misoedd Awst a Medi ac oedd yn dathlu dawns a cherddoriaeth Wyddelig.[5]

Cau dro dro

[golygu | golygu cod]
An Taibhdhearc - Amharclann Náisiúnta na Gaeilge (2008)

Ar ôl dioddef difrod mwg helaeth yn ystod tân yn 2007, ceuodd y Taibhdhearc ei drysau am gyfnod estynedig o waith adnewyddu ac adeiladu.[6] Tra bod y theatr ar gau, parhaodd y Taibhdhearc i gynhyrchu sioeau mewn lleoliadau eraill o amgylch dinas a Swydd Gaillihm. Ail-agorwyd y theatr gan Arlywydd Iwerddon, Michael D. Higgins ym mis Medi 2012.[7]

Adnewyddu

[golygu | golygu cod]

Yn dilyn y tân adnewyddwyd yr adeilad iddo fod yn theatr newydd o’r radd flaenaf sy’n addas ar gyfer cynyrchiadau bychain, cynadleddau, seminarau, gweithdai a lansiadau. Mae gan yr awditoriwm 148 o seddi, ac mae’r bar/caffi Art Deco ar ei newydd wedd yn lle i werthfawrgori hanes hir y theatr. Mae'r adeilaf yn ganolfan i artistiaid theatr, y gymuned gelfyddydol, cymunedau Gwyddeleg ac mae’r caffi-bar ar agor 6 diwrnod yr wythnos, yn ogystal â chyn ac ar ôl sioeau.[8]

Cyfoes

[golygu | golygu cod]

Yn 2004 gwobrwywyd An Taibhdhearc sgript sgrîn Gradam Bhaitéir Uí Mhaicín ar gyfer cynhyrchiad Coinneáil Orainn ('Cadw Ni') gan Darach Ó Scolái, a lwyfanwyd gan An Taibhdhearc y flwyddyn ganlynol. Mae hanes y theatr wedi ei nodi gan llanw a thrai o ran llwyddiant ac heriau.[3]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "An Taibhdhearc". Galway International Arts Centre. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2024.
  2. Seán Stafford (2002). Journal of the Galway Archaeological and Historical Society, Vol. 54 pp. 183-214 (gol.). "Taibhdhearc na Gaillimhe: Galway's Gaelic Theatre". Cyrchwyd 18 Tachwedd 2024.
  3. 3.0 3.1 John T. Koch (2006), Celtic Culture – A Historical Encyclopedia, ABC-CLIO, pp. 1645-1646
  4. "Venues". Galway Comedi Festival. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2024.
  5. "Celtic Crossroads". Celtic Crossroads. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-02-11. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2024.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  6. Kernan Andrews (16 Mehefin 2011). "An Taibhdhearc could re-open next year". Galway Advertiser.
  7. Niamh O'Sullivan (24 Medi 2012). "President Michael D Higgins to reopen An Taibhdhearc theatre". Gaelport.[dolen farw]
  8. "Venues". Galway Comedi Festival. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2024.