Amiodaron
Enghraifft o: | math o endid cemegol |
---|---|
Math | antiarrhythmic agent, benzofurans |
Màs | 645.024 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂₅h₂₉i₂no₃ |
Clefydau i'w trin | Arhythmia'r galon, supraventricular tachycardia, ffibriliad fentriglaidd, clefyd y galon, atrial flutter, ffibriliad atrïaidd, ventricular tachycardia |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd unol daleithiau america d |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae amiodaron yn feddyginiaeth sydd yn cael ei ddefnyddio i drin nifer o gyflyrau sy'n achosi rhythm calon annormal. Yn y DU mae'n cael ei ddosbarthu gan gwmni Sanofi o dan yr enw Cordarone x[1]. Mae ar gael ar ffurf tabled fel cyffur generig.[2] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₂₅H₂₉I₂NO₃.
Hanes
[golygu | golygu cod]Datblygwyd amiodarone gyntaf ym 1961 gan ddod i ddefnydd meddygol ym 1962 ar gyfer poen y frest a gredir ei fod yn gysylltiedig â'r galon. Fe'i tynnwyd o'r farchnad ym 1967 oherwydd sgil effeithiau. Ym 1974 gwelwyd bod yn ddefnyddiol ar gyfer arrhythmia a chafodd ei ailgyflwyno. Mae ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, y meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd[3]
Defnydd
[golygu | golygu cod]Mae amiodarone yn cael ei ddefnyddio i drin ffibriliad rhedwelïol a fentriglaidd cylchol. Mae hefyd yn cael ei ddefnyddio i drin chwimguriad fentrigliaidd y galon a chwimguriad uwch fentrigliaidd y galon. Mae'n cael ei ddefnyddio i drin syndrom Wolff-Parkinson-Whyte[4].
Dos
[golygu | golygu cod]Mae amiodarone ar gael fel tabledi neu fel pigiad. Gan fod gan y cyffur sgil effeithiau difrifol mae triniaeth gychwynnol yn cael ei roi mewn ysbyty o dan oruchwyliaeth arbenigwr. Mae ar gael drwy ragnodyn yn unig. Y dos arferol yw 600 mg y dydd yn cael ei leihau i 400 mg y dydd a 100–200 mg y dydd. Ar ffurf tabledi mae'n dechrau gweithio rhwng 72 awr a rhai wythnosau, ond trwy bigiad mae'n dechrau gweithio o fewn hanner awr. Gall ei effeithiau para rhwng 3 a 12 mis.
Sgil effeithiau
[golygu | golygu cod]Mae nifer o sgil effeithiau yn perthyn i'r cyffur, ymysg y rhai mwyaf cyffredin yw:
Mae sgil effeithiau llai cyffredin yn cynnwys
- Problemau efo'r thyroid
- Aflonyddu ar gyfradd y galon
- fferdod, merwino'r eithafion
- Diffyg anadl a pheswch
- Cur pen
- Gwendid / nychdod
- Blas metel ar y tafod
- Y croen yn troi'n llwyd
Beichiogrwydd
[golygu | golygu cod]Ni ddylai merched beichiog defnyddio'r cyffur
Bwydo ar y bron
[golygu | golygu cod]Gall cael ei drosglwyddo i'r baban gan hynny nid yw'n cael ei gymeradwyo ar gyfer mamau sy'n bwydo ar y fron.
Gyrru
[golygu | golygu cod]Dylid osgoi gyrru a gwaith peryglus arall hyd wybod effeithiau'r cyffur. Un o'r peryglon mawr wrth yrru yw bod y cyffur yn amlhau effaith dallu goleuadau cryf.
Alcohol
[golygu | golygu cod]Mae'n iawn yfed yn gymedrol
Defnydd meddygol
[golygu | golygu cod]Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Enwau
[golygu | golygu cod]Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Amiodaron, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Cordarone X Intravenous". emc. Cyrchwyd 15 Chwefror 2018.
- ↑ Pubchem. "Amiodaron". pubchem.ncbi.nlm.nih.gov (yn Saesneg). Cyrchwyd 2018-02-28.
- ↑ Rhestr Meddyginiaethau Hanfodol 2015 (Rhif 19) adalwyd 15 Chwefror 2018
- ↑ "Web MD - Amiodarone".
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |