Amaethon fab Dôn
Gwedd
Amaethon fab Dôn | |
---|---|
Amaethyddiaeth | |
Enwau eraill | Amaethon, Amathaon |
Prif le cwlt | Cymru |
Brwydrau | Cad Goddeu |
Anifeiliaid | Cŵn, cornicyllod, ac ewigod |
Rhyw | Gwryw |
Achyddiaeth | |
Rhieni | Dôn a Beli Mawr |
Siblingiaid | Gwydion, Arianrhod, Gilfaethwy ac eraill |
Yn y chwedl Culhwch ac Olwen, cymeriad a gysylltir ag amaeth yw Amaethon fab Dôn. Yn ôl ei enw, roedd yn fab i'r dduwies Dôn[1] a'r duw Beli Mawr,[2] ac roedd yn frawd i Arianrhod, Penarddun, Gilfaethwy, Gofannon, Gwydion, a Nudd.[2]
Cyfeirir ato mewn rhestr o'r annoethau (pethau anodd i'w cael) a osodir ar yr arwr Culhwch gan Ysbaddaden Bencawr er mwyn ennill llaw Olwen. Mae'n rhaid i Gulhwch gael cymorth Amaethon i wneud aradr arbennig, aradu darn o dir a'i hau. Ni cheir cyfeiriad arall ato na'r dasg, ond mae'r ffaith ei fod yn y rhestr honno yn awgrymu y bu chwedl amdano yn cylchredeg yn y gorffennol.
Efallai fod cymeriad Amaethon yn cynrychioli duw amaeth Celtaidd y cadwyd y cof amdano yn fyw yn nhraddodiadau'r Cymry.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Cotterell, Arthur: The Encyclopedia of Mythology, page 97. Hermes House, 2007. ISBN 1-84038-894-3
- ↑ 2.0 2.1 d'Este, Sorita; Rankine, David (2007). The Isles of the Many Gods: An A-Z of the Pagan Gods & Goddesses of Ancient Britain worshipped during the First Millennium through to the Middle Ages (yn Saesneg). Avalonia. t. 57.
- Rachel Bromwich a D. Simon Evans (gol.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd, 1988)
- Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Boydell Press, 2000)