Neidio i'r cynnwys

Alpha Beta (drama)

Oddi ar Wicipedia
Alpha Beta
Dyddiad cynharaf1972
AwdurA. E Whitehead (Ted Whitehead)
CyhoeddwrFaber & Faber
GwladPrydain
IaithSaesneg
PwncDramâu Saesneg

Drama lwyfan tair act i ŵr a gwraig yw Alpha Beta gan A.E Whitehead neu Ted Whitehead. Er mai yn Saesneg y cyfansoddwyd y ddrama ym 1972, llwyfannodd Cwmni Theatr Cymru gynhyrchiad nodedig iawn ohoni yn y Gymraeg ym 1974, gyda John Ogwen a Maureen Rhys yn portreadu'r cwpl priod sy'n ffraeo'n greulon drwyddi. John a Maureen oedd yn gyfrifol am y cyfieithiad Cymraeg.[1]

Cefndir byr

[golygu | golygu cod]

Frank a Norma Elliot yw’r cwpl priod sy’n amlwg yn cael anhawster mawr i fyw gyda’i gilydd ac wedyn ar wahân. Drama gignoeth a chreulon, wrth geisio adlewyrchu onestrwydd neu ffug barchusrwydd y briodas draddodiadol.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Frank Elliot - Gŵr
  • Norma Elliot - Gwraig

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

1970au

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol yn y Royal Court, Llundain ym 1972, ac wedyn yn Theatr Apollo. Cyfarwyddwr Anthony Page; cast:

Clawr cynhyrchiad 1974


Cyflwynwyd cyfieithiad Cymraeg John Ogwen a Maureen Rhys o'r ddrama gan Gwmni Theatr Cymru ym 1974. Cyfarwyddwyr Wilbert Lloyd Roberts a Grey Evans; cast:

  • Frank Elliot - John Ogwen
  • Norma Elliot - Maureen Rhys

Soniodd John Ogwen am y profiad o lwyfannu'r ddrama yn Aberystwyth, yn ei hunangofiant Hogyn O Sling: ”…o’r dechrau teimlai’r ddau ohonom (a thrafodwyd hyn yn ystod yr egwyl gyntaf) fod y gynulleidfa’n ochri gormod gyda’r gŵr ffraeth miniog ei dafod, a rhywsut ddim eisiau gweld safbwynt y wraig. O ddechrau’r ail act, gan ddefnyddio’r un ddeialog, wrth reswm pawb, rhoddais fwy o gasineb yn y dweud. Teimlodd y ddau ohonom y gynulleidfa’n dechrau newid a’r syniad yn tyfu yn eu plith fod bai mawr o’r ddwy ochr am y tor-priodas yn y ddrama”.[2]

"Un anodd i'w throsi oedd y ddrama," yn ôl yr actores Maureen Rhys; "ond mi lwyddon ni yn y diwedd, y fi'n gwneud ychydig o'r gwaith palu a John yn cymryd drosodd wedyn. Un linell na alla neb, mae'n siwr gen i, ei chyfieithu oedd yr un a ddefnyddiodd y wraig wrth weld 'i gŵr yn mynd allan, yn ei meddwl hi, i hel merched: 'Mutton dressed as ram'. Alla neb chwaith anghofio llinell fel yna."[3]

"Mi gawson ni dderbyniad gwresog, a rhai yn cymryd Alpha Beta fel trobwynt yn hanes y ddrama Gymraeg. Er bod awydd cryf gan ambell un yn y gorfforaeth i wneud telediad ohoni, y penderfyniad oedd nad oedd y ddrama'n addas i'r cyfnod hwnnw ym myd teledu Cymraeg. Ond fe wnaed recordiad radio ac, yn ôl Dafydd Huw Williams y cynhyrchydd, chafwyd yr un gŵyn am y ddrama. Mi gawson ni wadd i ail-godi Alpha Beta a'i pherfformio hi yn Theatr Gwynedd - y ddrama Gymraeg gyntaf i gael ei pherfformio yn y theatr honno." [3]

2010au

[golygu | golygu cod]

Cynhyrchiad Theatr Y Finborough a Unicorn Theatre, Llundain yn 2015 - y llwyfanniad cyntaf yn Llundain ers 40 mlynedd. Cyfarwyddwr Purni Morell; cast:

  • Frank Elliot - Christian Roe
  • Norma Elliot - Tracy Ifeachor

Un fu'n gweld y cynhyrchiad yma oedd adolygydd theatr Y Cymro, Paul Griffiths : "Er nad oeddwn wedi camu i run theatr (nac yn wir wedi gadael y groth!) pan lwyfannwyd y gwreiddiol, mae’r ddrama’n parhau i fod yn astudiaeth greulon (neu rhy onest efallai?) o’r stad briodasol. Yr hunanoldeb materol o fethu byw arwahan, (morgais, plant, cartref a char) ac eto'r angen ysbrydol a chorfforol am ryddid rhywiol, llonyddwch ac asbri hwyl!  Deunydd deugain mlynedd oed sy’n dal yn gyfoes yn yr oes hon o ysgariad neu’r ‘open relationships’ bondigrybwyll sy’n bla ymysg cyplau ifanc, wedi’u dal yn y Wê o ddewis dyddiol."[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Griffiths, Paul (2015-07-24). "'Alpha Beta'". Paul Griffiths. Cyrchwyd 2024-09-04.
  2. Ogwen, John. Hogyn O Sling. Gwasg Gwynedd.
  3. 3.0 3.1 Rhys, Maureen (2006). Prifio - Hunangofiant Maureen Rhys. Gomer. ISBN 1 84323 762 8.
Eginyn erthygl sydd uchod am y theatr yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.