Neidio i'r cynnwys

Afon Siúr

Oddi ar Wicipedia
Afon Siúr
Enghraifft o:afon Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolAn tSiúir Edit this on Wikidata
Hyd184 cilometr Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Afon Siúr [ʃuːr] (Gwyddeleg: An tSiúr neu Abhainn na Siúire, Saesneg: River Suir yn afon yn ne Iwerddon gyda chyfanswm hyd o 183 km.[1] Dalgylch Afon Siúr yw 3,610 km2.[2] Daw'r enw o'r Hen Wyddeleg, suir, am "chwaer".[3]

Mae ei tharddiad i'r gogledd o dref Templemore yn Swydd Tipperary. Oddi yno mae'n llifo trwy drefi Loughmore, Thurleigh a Holycross, yn ymuno ag afonydd Aherlow a Tar ac yn llifo tua'r dwyrain cyn Mynyddoedd Comeragh.

Mae'r afon yn ffurfio'r ffin rhwng Swydd Waterford a Swydd Kilkenny yn y fan hon ac yn llifo trwy drefi Cahir, Clonmel, a Charraig-on-Suir cyn cyrraedd dinas Port Láirge. I'r gogledd o'r ddinas mae Afon Siúr yn ymuno ag Afon Barrow - yn fuan ar ôl i'r olaf derbyn dyfroedd Afon Nore - i ffurfio un afon sy'n llifo i'r Môr Celtaidd ychydig gilometrau i'r de o Waterford yn Dunmore East. Adnabyddir y tair afon ar lafar gwlad fel y Tair Chwaer. Ar ben eithaf penrhyn Hook Head saif y goleudy o'r un enw, a adeiladwyd ym 1172, sy'n golygu mai hwn yw'r hynaf yn Ewrop.

Yn hanesyddol, roedd yr afon yn bwysig wrth i'r Llychlynwyr feddiannu'r berfeddwlad yn yr Oesoedd Canol cynnar. O ganol y 9g ymlaen, sefydlasant aneddiadau ar hyd yr arfordir a'r afonydd.

Mae Afon Siúr yn boblogaidd iawn gyda physgotwyr sy'n pysgota am eogiaid a brithyllod brown.

Dolenni

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. The Suir, From Its Source to the Sea. Creative Media Partners, LLC. 2023. ISBN 9781019427989. River Suir, Ireland's Fisheries
  2. South Eastern River Basin District Management System. Page 38 Archifwyd 3 Mawrth 2016 yn y Peiriant Wayback
  3. "eDIL - Irish Language Dictionary". www.dil.ie.
Eginyn erthygl sydd uchod am Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.