Afon Senegal
Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Mawritania, Senegal, Mali |
Cyfesurynnau | 13.8144°N 10.8302°W, 15.9667°N 16.5086°W |
Aber | Cefnfor yr Iwerydd |
Llednentydd | Afon Bafing, Afon Karakoro, Afon Bakoy, Afon Falémé, Afon Gorgol, Afon Kolinbiné, Afon Doué |
Dalgylch | 419,575 cilometr sgwâr |
Hyd | 1,050 cilometr |
Arllwysiad | 640 metr ciwbic yr eiliad |
Afon fawr 1790 km o hyd yng Ngorllewin Affrica sy'n ffurfio'r ffin rhwng Senegal i'r de a Mawritania i'r gogledd yw Afon Senegal.
Cyfeiria Pliny yr Hynaf ati wrth yr enw Bambotus (o'r gair Ffeniceg behemoth sef "afonfarch") a gan Ptolemi wrth yr enw Nias. Ymwelodd Hanno o Carthago a'i haber yn 450 CC ar ei fordaith o Carthago drwy Pileri Herakles i Theon Ochema (Mynydd Camerŵn efallai) yng Ngwlff Gini. Sefydlwyd masnach rhwng trigolion glannau'r afon a dinasoedd y Môr Canoldir, tan i Carthago a'i rhwydwaith masnach yng ngorllewin Affrica gael ei dinsitrio yn 146 CC.
Mae'r afon yn cael ei ffurfio wrth i afonydd Semefe (Bakoy) a Bafing ymuno ger tref Bafoulabé, Mali. Mae'r afonydd Semefé a Bafing yn eu tro yn rhannu tarddle yn Gini; llifa Afon Bafing trwy Mali ac mae'r Semefé yn llifo ar hyd y ffin rhwng y wlad honno a Senegal.
Wrth iddi lifo tuag at ei haber, mae afon Senegal yn llifo trwy Biffeche a dinas Saint-Louis ac yna'n troi i'r de. Mae stribyn cul o dywod a enwir yn Langue de Barbarie yn gorwedd rhyngddi a'r Cefnfor Iwerydd ar ran olaf ei chwrs cyn iddi aberu yn y cefnfor hwnnw. Ceir dwy argae fawr ar ei chwrs, sef Argae Manantali sy'n creu Llyn Manantali ym Mali, ac Argae Maka-Diama ar y ffin rhwng Mawritania a Senegal, ger yr aber.
Y prif lednentydd yw Afon Faleme, Afon Karakoro, ac Afon Gorgol.