Neidio i'r cynnwys

Afon Cibi

Oddi ar Wicipedia
Afon Cibi
Afon Cibi mewn sianel yn y Fenni
Mathnant Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Fynwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.822621°N 3.017124°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO299142 Edit this on Wikidata
AberAfon Gafenni Edit this on Wikidata
Map

Afon fechan yn Sir Fynwy yw Afon Cibi. Mae'n tarddu ar lethrau deheuol Pen-y-fâl ac yn llifo i'r de am tua 3 milltir (5 km) i'w chydlifiad ag Afon Gafenni yn Dolydd y Castell yn y Fenni. Mae llawer o gwrs y nant drwy'r Fenni bellach o dan y ddaear mewn ceuffosydd er bod darnau i'w gweld mewn sianeli agored wrth ochr Parc Bailey ac i'r dwyrain o Stryd y Farchnad.

Yn y 19g safodd melin ŷd, Melin y Capel (cyfeirnod OS SO 291155), wrth ochr yr afon i'r gogledd o'r Fenni.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Chapel Mill", Coflein; adalwyd 29 Rhagfyr 2024