AC/DC
Enghraifft o: | band |
---|---|
Gwlad | Awstralia |
Label recordio | Columbia Records, Sony Music Entertainment, Interscope Records, Universal Music Group, Epic Records, Geffen Records, Hollywood Records, Island Records |
Dod i'r brig | 1973 |
Dechrau/Sefydlu | 31 Rhagfyr 1973 |
Genre | cerddoriaeth roc caled, roc a rôl, roc y felan, classic rock |
Yn cynnwys | Angus Young, Cliff Williams, Brian Johnson, Stevie Young, Matt Laug, Chris Chaney |
Lleoliad yr archif | Australian Performing Arts Collection |
Gwefan | https://acdc.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Band roc caled Awstralaidd a ffurfiwyd yn Sydney ym 1973 gan y brodyr Angus a Malcolm Young yw AC/DC. Er ystyrient fel arloeswyr metel trwm,[1][2] mae aelodau'r band wastad wedi disgrifio eu cerddoriaeth fel "roc a rôl".[3]
Bu nifer o newidiadau i drefniant AC/DC cyn iddynt rhyddhau eu halbwm cyntaf, High Voltage, ym 1975. Ni newidiodd yr aelodaeth tan i'r gitarydd bas Cliff Williams cymryd lle Mark Evans ym 1977. Ym 1979, recordiodd y band eu halbwm llwyddiannus iawn Highway to Hell. Bu farw'r prif ganwr a chyd-ysgrifennwr caneuon Bon Scott ar 19 Chwefror 1980, ar ôl noson o yfed trwm. Ystyriodd y band roi'r gorau iddi, ond yn fuan wedyn, cafodd Brian Johnson, cyn-ganwr Geordie ei ddewis i gymryd lle Scott. Yn hwyrach y flwyddyn honno, rhyddhaodd y band eu halbwm brig, Back in Black.
Roedd albwm nesaf y band, For Those About to Rock We Salute You, hefyd yn llwyddiannus iawn ac hwn oedd eu halbwm cyntaf i gyrraedd safle rhif-un yn yr Unol Daleithiau. Gostyngodd poblogrwydd AC/DC ar ôl i'r drymiwr Phil Rudd adael ym 1983. Parhaodd gwerthiannau recordiau isel nes i The Razors Edge gael ei ryddhau ym 1990. Dychwelodd Phil Rudd ym 1994 a chyfrannodd at yr albwm Ballbreaker, a ryddhawyd ym 1995. Rhyddhawyd Stiff Upper Lip yn 2000 a derbyniodd glod gan y beirniaid. Cyhoeddwyd albwm newydd y band, Black Ice, ym Mehefin 2008 a rhyddhawyd ar 20 Hydref 2008.
Mae AC/DC wedi gwerthu dros 200 miliwn o albymau yn fyd-eang,[4] gan gynnwys 71 miliwn o albymau yn yr Unol Daleithiau.[5] Amcangyfrifir i Back in Black werthu rhyw 42 miliwn o gopïau byd-eang[6] a 22 miliwn yn yr Unol Daleithiau yn unig.[7] Fe gynhwysir AC/DC yn bedwerydd ar restr VH1 o'r 100 Artist Roc Caled Gorau[8] ac yn seithfed ar restr MTV o'r Bandiau Metel Caled Gorau Erioed.[9]
Aelodau
[golygu | golygu cod]- Brian Johnson – prif lais (1980–presennol)
- Angus Young – prif gitâr (1973–presennol)
- Malcolm Young – gitâr rythm, llais cyfeiliant (1973–presennol)
- Cliff Williams – gitâr fas, llais cyfeiliant (1977–presennol)
- Phil Rudd – drymiau, taro (1975–1983, 1994–presennol)
Cyn-aelodau
[golygu | golygu cod]- Dave Evans – prif lais (1973–1974)
- Bon Scott – prif lais (1974–1980)
- Mark Evans – gitâr fas (1975–1977)
- Simon Wright – drymiau, taro (1983–1989)
- Chris Slade – drymiau, taro (1989–1994)
Disgyddiaeth
[golygu | golygu cod]Albymau stiwdio
[golygu | golygu cod]Teitl | Rhyddhawyd |
---|---|
High Voltage (Awstralia) | 1975 |
T.N.T. | 1975 |
High Voltage (rhyngwladol) | 1976 |
Dirty Deeds Done Dirt Cheap (Awstralia) | 1976 |
Dirty Deeds Done Dirt Cheap (rhyngwladol) | 1976 |
Let There Be Rock (Awstralia) | 1977 |
Let There Be Rock (rhyngwladol) | 1977 |
Powerage | 1978 |
Highway to Hell | 1979 |
Back in Black | 1980 |
For Those About to Rock We Salute You | 1981 |
Flick of the Switch | 1983 |
'74 Jailbreak | 1984 |
Fly on the Wall | 1985 |
Who Made Who | 1986 |
Blow Up Your Video | 1988 |
The Razors Edge | 1990 |
Ballbreaker | 1995 |
Stiff Upper Lip | 2000 |
Black Ice | 2008 |
Rock or Bust | 2014 |
Power Up | 2020 |
Oriel
[golygu | golygu cod]Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Dome, Malcolm (1982). AC/DC. Proteus Books. ISBN 0-862-76011-9
Bunton, Richard (1983). AC/DC: Hell Ain't No Bad Place to Be. Omnibus Books. ISBN 0-711-90082-5
Holmes, Tim (1986). AC/DC (Monsters of Metal). Ballantine. ISBN 0-345-33239-3
Huxley, Martin (1996). AC/DC: The World's Heaviest Rock. Lightning Source Inc.. ISBN 0-312-30220-7
Stenning, Paul (2005). AC/DC: Two Sides to Every Glory. Chrome Dreams. ISBN 1-842-40308-7
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "AC/DC". Encyclopædia Britannica Ultimate Reference Suite (2008). (24 Medi, 2007). Gol. Dale Hoiberg. ISBN 1-59339-292-3.
- ↑ "heavy metal". Encyclopædia Britannica Ultimate Reference Suite (2008). (24 Medi, 2007). Gol. Dale Hoiberg. ISBN 1-59339-292-3.
- ↑ Engleheart, Murray (18 Tachwedd 1997). AC/DC - Bonfire
- ↑ (Saesneg) Mulvey, Paul (23 Hydref 2003). Back to roots for AC/DC. Sydney Morning Herald. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Top Selling Artists. Recording Industry Association of America. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Record Breakers and Trivia: Albums. EveryHit. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) Top 100 Albums. Recording Industry Association of America. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) 100 Greatest Artists of Hard Rock. VH1.com. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
- ↑ (Saesneg) The Greatest Metal Bands Of All Time. MTV. Adalwyd ar 9 Hydref, 2008.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) ACDC.com – gwefan swyddogol