Neidio i'r cynnwys

Macau

Oddi ar Wicipedia
Ni chefnogir y fersiwn argraffadwy bellach ac efallai y bydd gwallau rendro. Diweddarwch eich nodau tudalen a defnyddiwch y nodweddion argraffu arferol yn eich porwr.
Macau
Mathrhanbarth gweinyddol arbennig, dinas-wladwriaeth, dinas fawr, anheddiad dynol, cyrchfan i dwristiaid, rhestr o diriogaethau dibynnol, tiriogaeth tollau Tsieina Edit this on Wikidata
Chinese(Cantonese)-Macau full name.ogg, Chinese-Macau full name.ogg, Portuguese-Macau full name.ogg Edit this on Wikidata
Poblogaeth682,100 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 20 Rhagfyr 1999 (rhanbarth gweinyddol arbennig)
  • 1557 (Portuguese Macau) Edit this on Wikidata
AnthemGorymdaith y Gwirfoddolwyr Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethHo Iat Seng Edit this on Wikidata
Cylchfa amserMacau Standard Time Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Coimbra, Lisbon, Porto, São Paulo, Dinas Brwsel, Praia, Da Nang, Maputo, Luanda, Rio de Janeiro, Chieti, Recife, Faro, Linköping Municipality Edit this on Wikidata
NawddsantIoan Fedyddiwr Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Portiwgaleg, Mandarin safonol, Cantoneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolDwyrain Asia, ystyrir gan yr UE fel gwlad sy'n hafan i bobl sy'n osgoi trethi, Gweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
SirGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
GwladGweriniaeth Pobl Tsieina Edit this on Wikidata
Arwynebedd115.3 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr22 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGuangdong Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau22.19°N 113.5381°E Edit this on Wikidata
CN-MO Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolGovernment of Macau Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholLegislative Assembly of Macau Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Chief Executive of Macau Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethHo Iat Seng Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethHeritage of Portuguese Influence Edit this on Wikidata
Manylion
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$30,124 million, $21,979 million Edit this on Wikidata
ArianMacanese pataca, Doler Hong Cong Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.243 Edit this on Wikidata

Rhanbarth Gweinyddol Arbennig sy'n perthyn i Weriniaeth Pobl Tsieina yw Macau (neu Macao). Mae'n cynnyws Gorynys Macau a dwy ynys (Taipa a Coloane) a leolir yn nelta Zhu Jiang (Afon Perl) yn ne-ddwyrain y wlad. Mae'n ffinio â thalaith Guangdong ac mae Hong Cong yn gorwedd 17 milltir i'r dwyrain.

Gweinyddwyd Macau gan Bortiwgal o 1557 hyd 1999, gan ei gwneud hi'r wladfa Ewropeaidd olaf yn Asia ar adeg ei throsgwlyddo yn ôl i Tsieina. Ymsefydlodd masnachwyr o Bortiwgal gyntaf ym Macau yn y 1550au. Ym 1557, cafodd Macau ei rhentu i Bortiwgal gan Ymerodraeth Tsieina fel porthladd masnach. Gweinyddodd Portiwgal y ddinas o dan awdurdod a sofraniaeth Tsieiniadd tan 1887, pan ddaeth Macau yn wladfa i'r ymerodraeth Borthiwgalaidd. Cafodd sofraniaeth ei throsglwyddo'n ôl i Tsieina ar Ragfyr 20fed 1999. Mae Cyd-Ddatganiad Tsieina-Portiwgal a Chyfraith Sylfaenol Macau'n mynnu bod Macau'n gweithredu gyda lefel uchel o annibyniaeth tan o leiaf 2049, hanner can mlynedd ar ôl y trosglwyddo.

O dan bolisi "un wlad, dau gyfundrefn", mae Llywodraeth Ganolog y Bobl Gweriniaeth Pobl Tsieina'n gyfrifol am amddiffyn y diriogaeth ac am faterion tramor tra bod Macau'n parhau i gynnal ei chyfundrefn gyfreithiol, heddlu, arian cyfredol, polisi tollau a pholisi mewnfudo. Mae Macau'n cyfrannu i sefydliadau rhyngwladol a digwyddiadau sydd ddim angen i'w haelodau feddiannu sofraniaeth genedlaethol.

Casino Lisboa, Macau.
Casino Lisboa, Macau.

Adeiladau a chofadeiladau

  • Camões Grotto
  • Casino Lisboa
  • Eglwys Gadeiriol Sant Pawl
  • Fortaleza de Mong Há
  • Fortaleza do Monte
  • Pont Lotws
  • Senedd
  • Teml Na Tcha

Enwogion

Israniadau gweinyddol Gweriniaeth Pobl Tsieina
Taleithiau AnhuiFujianGansuGuangdongGuizhouHainanHebeiHeilongjiangHenanHubeiHunanJiangsuJiangxiJilinLiaoningQinghaiShaanxiShandongShanxiSichuanYunnanZhejiang
Taleithiau dinesig BeijingChongqingShanghaiTianjin
Rhanbarthau ymreolaethol GuangxiMongolia FewnolNingxiaTibetXinjiang
Rhanbarthau Gweinyddol Arbennig Hong CongMacau
Eginyn erthygl sydd uchod am Tsieina. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato