Cytundeb Oregon
Enghraifft o'r canlynol | cytundeb |
---|---|
Dyddiad | 15 Mehefin 1846 |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | Washington |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Cytundeb Oregon, (enw swyddogol: Cytundeb gyda Phrydain Fawr, Parthed Terfynau i'r Gorllewin o Fynyddoedd y Rockies), a elwir hefyd yn Gytundeb Washington, yn gytundeb ddwyochrog rhwng y Deyrnas Unedig a'r Unol Daleithiau a arwyddwyd ar 15 Mehefin 1846 yn Washington, D.C.. Yn sgil y cytundeb, daeth yr anghydfod i ben rhwng yr Unol Daleithiau a Phrydain dros ffin Gwlad Oregon, lle roedd y ddwy wlad wedi hawlio'r diriogaeth y bu iddynt feddiannu ar y cyd ers Cytundeb 1818.
Roedd Gwlad Oregon yn enw a roddwyd ar y tir yng ngorllewin Gogledd America i'r gogledd o ledred 42°Gog, i'r de o ledred 54°40'Gog, ac i'r gollewin o fynyddoedd y Rockies hyd at y Cefnfor Tawel. Erbyn heddiw, mae'r ardal yn ffurfio rhan o dalaith British Columbia yng Nghanada, ac yn yr Unol Daleithiau, taleithiau Oregon, Washington, ac Idaho, a rhannau o Wyoming a Montana.