Mewn anatomi dynol, y migwrn (neu ffêr, pigwrn, swrn) ydy'r cymal colfach sydd rhwng y grimog (neu groth y goes) a'r droed. Yr un tarddiad o'r Gelteg *kornu ‘corn’ sydd i ddiwedd y gair migwrn a'r geiriau eraill asgwrn, cogwrn a llosgwrn.

Migwrn
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathfree lower limb segment, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cefnblygiad (uchod) a gwadnblygiad (isod) y droed diolch i brif gymal y migwrn

Dyma ble mae esgyrn y tibia (asgwrn crimog) a'r ffibwla yn y goes yn cysylltu â'r talws (asgwrn ffêr) yn y droed. I fyny ac i lawr yn unig mae'r cymal talocrural yn caniatau ei ymsymud; fe'i defnyddir pan rydym yn cerdded (cefnblygiad) a phan rydym yn sefyll ar flaenau'r traed (gwadnblygiad).

Gwrthdroad (chwith) ac echdroad (dde) y droed diolch i'r ddau gymal arall

Mewn ystyr ehangach, fodd bynnag, mae'r gair migwrn yn cyfeirio nid yn unig at y cymal talocrural ond at yr ardal hwnnw'n gyffredinol. Mewn gwirionedd, mae'r ardal yma yn cynnwys tri chymal ar wahân a phedwar gewyn. Ceir y gewyn deltoid ynghyd â thri gewyn ochrol: y gewyn blaen taloffibiwlar, gewyn ôl taloffibiwlar a'r gewyn calcaneoffibiwlar. Mae'r ddau gymal arall - h.y. y cymal subtalar a'r cymal tibioffibwlar isaf - yn caniatáu i'r droed ymsymud o ochr i ochr, h.y. tuag at allan (echdroad) a tuag at i mewn (gwrthdroad).

Ysigiad y migwrn gyda throed chwyddedig. Mae pwysau aruthrol ar y migwrn a cheir llawer o broblemau mewn chwaraeon megis sboncen.

Oherwydd fod holl bwysau'r corff yn cael ei grynhoi mewn dau le bach, ceir llawer o broblemau, yn enwedig mewn chwaraeon; yr hyn a ddywedir, fel arfer, yw bod rhywun wedi ‘troi’ (h.y. ysigo) ei droed.

Chwiliwch am migwrn
yn Wiciadur.
Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.