Rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Mae fy nghwestiwn i yn ymwneud â bathodynnau glas. Rydym wedi cael llawer o gyfarfodydd yn ddiweddar i ddatrys problemau ar gyfer pobl â chyflyrau gydol oes fel nad oes rhaid iddynt ailgeisio bob tair blynedd—ailgyflwyno'r ffurflen, yr holl fanylion meddygol a thystiolaeth, yna wynebu gwrthodiad ar gam, a chael gwybod na allant apelio pan nad ydyn nhw'n mynd i wella. A fyddai'r Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno, ar draws yr holl awdurdodau lleol sy'n ei gyflwyno, bod angen i'r opsiwn o beidio gorfod cael ailasesiad fod ar gael ar gronfa ddata awdurdod lleol a rennir a'i ddefnyddio fel bod dim ond angen cyflwyno llun wedi'i ddiweddaru a phrawf preswylio? Mae angen dull cyson, gyda mwy o gydymdeimlad, gyda hyfforddiant gorfodol. Ac a fyddech chi'n cytuno, pan fyddwch chi'n sefydlu'r panel arbenigol hwn, nad swyddogion Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn unig fydd arno? A allech hefyd gael arbenigwyr o grwpiau anabledd a chwmni buddiannau cymunedol rhagorol Stand Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn arwain ar hyn ac wedi anfon deiseb i'r Senedd arno—fel y gallant fod yn rhan o'r panel arbenigol hwn? Diolch.
]]>I welcome this statement. My question is about blue badges. We've had many meetings recently to resolve issues for people with lifelong conditions so that they don't have to reapply every three years—to resubmit the form, all of the medical details and evidence, then incorrectly face rejection, and being told that they can't appeal when they're not going to get better. Would the Cabinet Secretary agree, across all local authorities that deliver it, we need the not-for-reassessment option to be available on a shared local authority database and used so that just an updated photo and proof of residence need to be submitted? There needs to be a consistent, more sympathetic approach, with mandatory training. And would you agree that, when you set up this expert panel, it's not just Welsh Government officials and the Welsh Local Government Association? Could you also have experts from disability groups and the excellent Stand North Wales community interest company, who have been leading on this and sent a petition to the Senedd on it—that they can be a part of this expert panel? Thank you.
]]>Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Bil bysiau hwn yn cael ei gyflwyno nawr. Fe wnes i gyflwyno deiseb bron i chwe blynedd yn ôl yn galw am fysiau i bobl, nid er elw, oherwydd ar y pryd roedd gennym weithredwyr yn cystadlu am yr un teithwyr proffidiol yn yr ardaloedd trefol gan dorri'r rhai llai proffidiol ond yr un mor bwysig yn yr ardaloedd gwledig. Roedd pobl wedi'u siomi'n fawr mewn cymunedau. Roeddwn i'n mynd i gyfarfodydd mewn neuaddau pentref ac roedd yn ofnadwy eu clywed yn pryderu eu bod nhw'n mynd i gael eu gadael gartref ac yn methu mynd allan.
Rwy'n gwybod nawr bod llawer o weithredwyr yn cael trafferthion ac maen nhw'n croesawu hwn, ond rwy'n gwybod y bydd yn cymryd amser i adeiladu'r rhwydwaith a'r cyllid, fel y digwyddodd gyda Trafnidiaeth Cymru, cyflwyno'r gwasanaethau newydd, buddsoddi £800 miliwn mewn trenau a cherbydau newydd, ac mae wedi bod yn drawsnewidiol. Rydym wedi gweld nifer y teithwyr yn cynyddu tua 25 y cant. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cael y rhwydwaith hwnnw'n iawn.
A fydd cymorth ac adnoddau ychwanegol i lywodraeth leol, sy'n adnabod y rhwydwaith a'r trigolion mor dda? Rwy'n gwybod yn sir y Fflint bod 450 o gontractau gwahanol, felly mae'n gymhleth iawn wrth symud ymlaen. Pa mor bwysig yw hi ein bod yn parhau i gael Llywodraethau sy'n buddsoddi mewn ariannu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol fel y gallwn ei adeiladu a gwneud yn siŵr eu bod yno ar gyfer ein trigolion mwyaf agored i niwed? Diolch.
]]>I really welcome this bus Bill coming forward now. I submitted a petition nearly six years ago calling for buses for people, not profit, because at the time we had operators competing for the same lucrative passengers in the urban areas while they were cutting the less profitable but equally important ones in the rural areas. There were people devastated in communities. I was going to meetings in village halls and it was awful to hear them really concerned that they were going to be left at home and not be able to get out.
I know now that many operators are struggling and they do welcome this, but I know it will take time to build the network and funding, as happened with Transport for Wales, the roll-out of the new services, £800 million invested in new trains and carriages, and it's been transformational. We've seen passengers increase by about 25 per cent. So, it's really important that we get that network right.
Will there be extra help and resources for local government, who know the network and residents so well? I know in Flintshire there's 450 different contracts, so it's very complicated going forward. How important is it that we continue to have Governments that invest in public service funding going forward so we can build it and make sure it's there for our most vulnerable residents? Thank you.
]]>Diolch am yr ymateb yna. Cefais fy synnu a'm digalonni, mewn gwirionedd, o weld nifer y tanau gwyllt sydd wedi digwydd ac sy'n dal i barhau nawr a dweud y gwir. Mae'r dinistr i'n bywyd gwyllt a'n hamgylchedd naturiol yn peri pryder mawr, ac mae'n peri pryder i drigolion hefyd, pan fyddan nhw'n mynd allan o reolaeth. Felly, Prif Weinidog, a yw ymatebwyr yn gwybod pam neu sut maen nhw'n cael eu cychwyn? Ac a wnewch chi ymuno â mi i godi pryderon am effaith y tanau gwyllt hyn ar natur, a'r effaith y gall esgeulustod neu hyd yn oed weithredu uniongyrchol ei achosi? Diolch.
]]>Thank you for that response. I was really surprised and disheartened, really, to see the number of wildfires that have happened and are still actually ongoing now. The devastation to our wildlife and natural environment is really concerning, and also it's worrying for residents as well, when they get out of control. So, First Minister, do responders know why or how they are being started? And would you join me in raising concerns about the impact of these wildfires on nature, and the impact that carelessness or even direct action can cause? Thank you.
]]>4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i atal tanau gwyllt yng Ngogledd Cymru? OQ62584
]]>4. How is the Welsh Government working with partners to prevent wildfires in North Wales? OQ62584
]]>Diolch i Heledd am gyflwyno'r ddadl fer hon ac am funud o'ch amser. Roedd yn dda cael cyfarfod ag aelodau o Sefydliad y Merched yn gynharach heddiw ac rwy'n croesawu'r ymgyrch hon, sy'n codi ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth. Mae diagnosis cynnar o ADHD ac awtistiaeth yn bwysig iawn ar gyfer dilysu, ar gyfer triniaeth os oes angen, ond hefyd ar gyfer addasiadau yn y gweithle os oes angen. Mae menywod yn well am guddio symptomau na dynion ac mae'n faich arnynt hefyd a gall arwain at straen. Mae menywod ag ADHD hefyd yn cael mwy o broblemau iechyd na menywod eraill. Ond mae'n rhaid inni ddathlu ein gwahaniaethau a gofalu am ein gilydd. Mae'n iawn, nid oes rhaid inni gydymffurfio â model cymdeithasol, ond mae angen inni wneud yn siŵr fod pob menyw a merch yn cael cyfle i ffynnu yn eu ffordd eu hunain, sut bynnag y bo. Diolch.
]]>Thank you to Heledd for tabling this short debate and for a minute of your time. It was good to meet with members of the Women's Institute earlier today and I welcome this campaign, raising awareness of neurodivergence. Early diagnosis of ADHD and autism is really important for validation, for treatment if necessary, but also for adjustments in the workplace if needed. Women are better at masking symptoms than men and it takes a toll on them as well and can lead to stress. Women with ADHD have more health problems as well than other women. But we must celebrate our differences and look out for each other. It's okay, we don't have to conform to a social model, but we do need to make sure that all women and girls have the opportunity to thrive in their own way, however it might be. Thank you.
]]>Hoffwn ddiolch i Mick am gyflwyno’r ddadl heddiw ac am ei arweinyddiaeth ar y grŵp trawsbleidiol ar daflu sbwriel, tipio anghyfreithlon a lleihau gwastraff.
Mae'n gas gennyf fynd am dro yn ein cefn gwlad a gweld sbwriel. Yn fy marn i, os gallant ddod ag ef, pam na allant fynd ag ef adref yn eu pocedi? Mae'n niweidiol i'n hamgylchedd naturiol, ac mae'n edrych yn ofnadwy. Cefais fy magu i fynd â sbwriel adref gyda mi, ond nawr, rwy'n mynd am dro ac yn mynd â sbwriel pobl eraill yn ôl adref. Rwy’n cofio unwaith, dywedodd gweithiwr gwagio gwlis wrthyf fod draen priffordd mewn ffordd bengaead wedi’i flocio gan gasgliad o becynnau creision lle roedd plant ifanc yn arfer chwarae. Fe wnaethant brocio'r pecynnau creision i lawr y draen a'i flocio. Pan oedd yn hŷn, gwelwyd un o'r bobl ifanc yn rhoi bag o faw ci i lawr gwli, felly nid yw wedi tyfu allan o’r arferiad.
Credaf fod y syniad o gwrs ymwybyddiaeth sbwriel yn un da, fel bod pobl yn ymwybodol o'r niwed y maent yn ei wneud. Rwy’n cofio, yn ystod y pandemig, fod llawer o grwpiau codi sbwriel wedi’u sefydlu, a oedd yn enghraifft wych o weithredu cymunedol, yn enghraifft wych o gyfrifoldeb cymdeithasol, a daethant yn heddlu sbwriel hefyd. Mae awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd gyda thoriadau. Nid oes ganddynt adnoddau na chapasiti i anfon codwyr sbwriel allan i gymunedau a thu hwnt i ganol trefi. Ac mae canolfannau ailgylchu gwastraff cartref mewn llawer o ardaloedd wedi gorfod cau ar ddiwrnodau penodol fel cam i arbed arian, felly mae hynny'n broblem fawr.
Mae awdurdodau lleol wedi dweud nad oes arnynt eisiau rhagor o ddeddfwriaeth heb ei hariannu. Ac rwy'n cofio pan oeddent yn cyflogi Kingdom—nid wyf yn gwybod a oes unrhyw un arall yn eu cofio—cwmni allanol ar gontract, a chafwyd ymateb chwyrn. Yr her i ni fel cynghorwyr oedd eu bod yn canolbwyntio ar y targedau hawdd fel ysmygwyr a stympiau sigaréts, ac fe arweiniodd gwrthwynebiad y cyhoedd at ddod â'r contract i ben, felly ni weithiodd hynny.
Fodd bynnag, mae cost clirio a symud deunydd sydd wedi'i dipio'n anghyfreithlon ar dir cyhoeddus yn aruthrol o ddrud. Ac os caiff ei waredu ar dir preifat, nid cyfrifoldeb y cyngor ydyw—ni chredaf fod llawer o bobl yn sylweddoli hynny—cyfrifoldeb y tirfeddiannwr preifat ydyw, ac weithiau mae'n cael ei adael. Mae hefyd yn cymryd llawer o waith i swyddogion gorfodi cynghorau gael digon o dystiolaeth i adeiladu achos. Efallai y bydd yn mynd i’r llys yn y pen draw, ond nid yw’r ddirwy yn ddigon i atal pobl rhag gwneud hyn eto, felly rwy'n cytuno'n llwyr â chi, Mick, fod angen inni edrych ar hynny.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y DU yn adeiladu dull gweithredu pedair gwlad ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr, ac yn trethu cwmnïau ar ddeunydd pecynnu, ac rwy'n gobeithio y gallwn weld newid yno. A gallai cynlluniau dychwelyd ernes ar gyfer gwastraff wrth fynd helpu gyda'r ateb hefyd.
Yn fy marn i, pan fydd pobl yn dweud bod angen mwy o finiau arnom, ni chredaf mai dyna'r ffordd ymlaen. Mae mwy o sbwriel yn cronni ac yn cael ei adael ger y bin. Rwy'n credu y dylai pobl fynd â'u sbwriel adref gyda hwy a'i ailgylchu. Llwyddais i gael gwared ar rai biniau o gilfannau, lle roedd pobl yn ychwanegu mwy o sbwriel atynt, ac roeddent yn gorlifo. Ac rwy'n gweld beth sy'n digwydd yng Nghaerdydd, sy'n erchyll.
Soniodd y Gymdeithas Cadwraeth Forol am gynnydd o 4 y cant yn lefel gyfartalog y sbwriel a ganfuwyd ar draethau Cymru yn 2024. A chyda llygredd plastig yn gymaint o broblem—mae ym mhob gwydraid o ddŵr hyd yn oed—rydym yn gwybod beth sy'n digwydd yno, felly mae angen inni wneud rhywbeth, ac rwy'n falch iawn fod hyn wedi'i gyflwyno. Diolch.
]]>I'd like to thank Mick for tabling today's debate and for his leadership on the cross-party group on littering, fly-tipping and waste reduction.
I detest going for walks in our countryside and coming across litter. I think, if they brought it, why can't they carry it home in their pockets? It's harmful to our natural environment, and it looks awful. I was brought up to take rubbish back home with me, but, now, I go for walks and end up taking other people's rubbish back home. I remember once, a gully emptier told me that a blocked highway drain in a cul-de-sac was blocked by an accumulation of crisp packets where young children used to play. They poked the crisp packets down the drain and blocked it. One of the young people, when they were older—she was seen posting a dog-poo bag down a gully, so she hasn't grown out of the habit.
I think the idea of a litter awareness course is a good one, so that people are aware of the damage that they’re doing. I remember, during the pandemic, lots of litter picker groups were set up, which was fantastic community action taking place, a great social responsibility, and they became the litter police as well. Local authorities are struggling with cuts. They do not have the resources or spare capacity to send litter pickers out into communities and beyond town centres. And household recycling centres in many areas have had to close on certain days as a budget-saving cost, so that’s a big issue.
Local authorities have asked for no more unfunded legislation. And I remember when they employed Kingdom—I don’t know if anybody else remembers them—an outsourced company, and there was an outcry. The challenge back to us as councillors was that they were focusing on the easy targets such as smokers and cigarette butts, and then public opposition meant that they were terminated, so that didn’t work.
However, the cost of clearing and moving fly-tipping on public land is hugely expensive. And if dumped on private land, it’s not the council’s responsibility—I don’t think many people realise that—it’s the private landowner’s responsibility, and sometimes it just gets left. It also takes a lot of work for council enforcement officers to get enough evidence to build a case. It may eventually go to court, but then the fine isn’t enough of a deterrent, so I totally agree with you, Mick, that we need to look at that.
I welcome that the UK Government is building a four-nation approach on producer responsibility, taxing companies on packaging, and hopefully we can see a change there. And deposit-return schemes for on-the-go waste might also help with the solution.
I think when people say we need more bins, I don’t think that is the way forward. It accumulates more rubbish dumped at the side. I think people should just take their rubbish home with them and recycle it. I got some bins removed from lay-bys, where people were just adding more rubbish to them and they were overflowing. And I see what happens in Cardiff, which is horrendous.
The Marine Conservation Society said that 2024 saw a 4 per cent increase in the average amount of litter found on Welsh beaches. And with plastic pollution being such an issue—it’s even in every glass of water—we know what’s happening there, so we need to do something, and I really welcome this coming forward. Thank you.
]]>[Anghlywadwy.]—swm o arian sy'n cael ei wario ar gasglu sbwriel, cannoedd o filoedd o bunnoedd, y gellid ei wario ar addysg, ar fysiau, yr holl bethau hyn sy'n wirioneddol bwysig i bobl. A ydych chi'n credu bod honno’n ffordd well o wario ein harian cyhoeddus?
]]>[Inaudible.]—the amount of money that's spent on collecting litter, hundreds of thousands of pounds, which could be spent on education, on buses, all of these things that really matter to people. Do you think that's a better way of spending our public money?
]]>Diolch am eich ateb. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Rewilding Britain, sy'n cynnig atebion ar gyfer dal dŵr yn ein hucheldiroedd megis creu argaeau sy'n gollwng dŵr, a hefyd creu gwlyptiroedd. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn ailgyflwyno afancod yn ogystal ag ateb ar sail natur. Dim ond cyfran fach o'r arian sydd wedi'i roi tuag at yr atebion ar sail natur hyn yn y DU gyfan ac yng Nghymru, o'i gymharu â syniadau eraill. Roeddwn i'n meddwl tybed pa ystyriaeth a roddwyd i weithio gyda thirfeddianwyr o dan gyfraith glannau afonydd—er enghraifft, wrth aredig caeau, a cheisio gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu haredig ar draws yn hytrach nag ar hyd y cae, fel bod y dŵr yn dod i lawr, ac arafu llif afonydd a nentydd i fyny'r afon hefyd—fel awgrym ar gyfer y dyfodol. Diolch.
]]>Thank you for your response. I recently met with Rewilding Britain, who are putting forward solutions for water capture in our uplands such as creating leaky dams, and also wetland creation. I'm very interested in reintroducing beavers as well as a nature solution. Only a small proportion of money has actually been given towards these nature-based solutions in the UK as a whole and in Wales, compared to other ideas. I was wondering what consideration has been given to working with landowners under riparian law—for example, when ploughing fields, trying to make sure that they're ploughed across rather than down the field, so the water comes down, and just slowing down the flow of rivers and streams upstream as well—as a suggestion going forward. Thank you.
]]>8. Sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd atebion sy'n seiliedig ar natur fel rhan o'i strategaeth llifogydd? OQ62505
]]>8. How is the Welsh Government pursuing nature-based solutions as part of its flood strategy? OQ62505
]]>Yn ystod yr ymgynghoriad, nododd Cymorth i Fenywod Cymru bryderon megis y ffaith bod nifer o fenywod yn byw mewn llochesi am dros chwe mis, yn bennaf oherwydd diffyg llety camu ymlaen priodol, ac y byddent felly'n cael contract safonol â chymorth, sy’n gwaethygu materion fel blocio gwelyau. Mae hyn yn cael effaith ganlyniadol ar ariannu, gweinyddu, ac yn bwysicaf oll, diogelu. Sut y mae ymchwil wedi gwneud cynnydd ar bennu effaith y newidiadau ar ddarpariaeth llochesi brys?
]]>During consultation, Welsh Women's Aid highlighted concerns such as there being a number of women who reside in refuges over six months, mostly due to the lack of appropriate move-on accommodation, and, therefore, who would be provided with the supported standard contract, which exacerbates issues such as bedblocking. This has a knock-on effect on financing, administration and, most importantly, safeguarding. How has research progressed in determining the impact of the changes on emergency refuge provision?
]]>