Gemau mwyaf arwyddocaol hanes tîm pêl-droed merched Cymru

Cymru cyn y fuddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Croatia yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025 ar y Cae Ras yn WrecsamImage source, Getty Images
Image caption,

Cymru'n paratoi i wynebu Croatia yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025

  • Published

Dros yr wythnos nesaf mi fydd tîm pêl-droed merched Cymru yn gobeithio creu hanes drwy gyrraedd rowndiau terfynol un o'r prif gystadlaethau rhyngwladol am y tro cyntaf erioed.

Mi fydden nhw yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon dros ddau gymal yn rownd derfynol gemau ail-gyfle Euro 2025.

Mae yna ychydig dros 50 mlynedd wedi bod ers i'r tîm chwarae eu gêm gyntaf, a dyma rai o'r gemau mwyaf arwyddocaol yn ystod y cyfnod yna.

1973 - Cymru 2-3 Gweriniaeth Iwerddon

Mi gafodd y tîm ei ffurfio yn 1973, a fe chwaraeon nhw eu gêm gyntaf erioed y flwyddyn honno yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Llanelli.

Er fod y tywydd yn echrydus ar y diwrnod, mi oedd yna dorf o tua 3,500 yno i wylio'r gêm.

Mi oedd yna rhaid i Gymru gael methyg kit gan dîm dynion Abertawe, ac oherwydd hynny mi oedd y crysau yn llawer rhy fawr i rai o'r chwaraewyr.

Gaynor Blackwell a Gloria O’Connell sgoriodd y goliau dros Gymru.

Media caption,

O'r archif: Cymru 2-3 Gweriniaeth Iwerddon (does dim sain gyda'r fideo)

Ar y pryd doedd y tîm ddim yn cael ei gydnabod gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, felly mi oedd yn rhaid i'r chwaraewyr dalu am bopeth eu hunain.

Fe arhosodd pethau fel yna tan i'r chwaraewyr Laura McAllister, Michele Adams a Karen Jones ofyn am gyfarfod gyda ysgrifennydd CBDC Alun Evans yn 1993.

Yn dilyn y cyfarfod yna fe benderfynodd y Gymdeithas gymryd rheolaeth o'r tîm.

2010 - Cymru 15-0 Azerbaijan

Mi oedd gobeithion Cymru o gyrraedd Cwpan y Byd 2011 ar ben erbyn iddyn nhw groesawu Azerbaijan i'r Drenewydd yn eu gêm olaf ond un yn y rowndiau rhagbrofol.

Ond mi oedd hi'n ddiwrnod i'w gofio i'r crysau cochion wrth iddyn nhw sicrhau eu buddugoliaeth fwyaf erioed.

Gwennan Harries yn chwarae dros GymruImage source, Huw Evans Picture Agency
Image caption,

Fe sgoriodd Gwennan Harries hat-tric yn erbyn Azerbaijan

Ychydig o ddiwrnodau cyn y gêm mi oedd Cymru wedi penodi Jarmo Matikainen o'r Ffindir fel eu rheolwr newydd, a mae'n bosibl fod hynny wedi ysbrydoli'r chwaraewyr.

Fe sgoriodd Helen Lander chwe gôl, tra fod Gwennan Harries wedi sgorio hat-tric.

2017 - Cymru 3-1 Gogledd Iwerddon

Er mai gêm gyfeillgar yn unig oedd hon, mi oedd hi'n achlysur bythgofiadwy i Jess Fishlock yn ennill ei chanfed cap.

Hi oedd y cyntaf yn hanes timau pêl-droed Cymru, dynion a merched, i gyrraedd y garreg filltir arbennig yma.

Media caption,

Jess Fishlock yn sgorio yn erbyn Gogledd Iwerddon

Mi ddathlodd Fishlock mewn steil, yn sgorio gôl wych wrth i Gymru ennill 3-1. Georgia Evans a Natasha Harding sgoriodd y goliau eraill.

Ers hynny mae hi wedi mynd yn ei blaen i ennill dros 150 o gapiau, a hi bellach yw'r prif sgoriwr yn hanes Cymru.

2018 - Lloegr 0-0 Cymru

O bosibl y canlyniad gorau yn hanes y tîm.

Ar y pryd mi oedd Lloegr yn yr ail safle ar restr detholion y byd, 32 safle yn uwch na Chymru.

Mi oedd pawb wedi disgwyl i Loegr ennill yn gyfforddus, a dwi'n siwr y byse hynny wedi digwydd oni bai am berfformiad arwrol gan golwr Cymru Laura O' Sullivan.

Media caption,

Lloegr 0-0 Cymru

Mi oedd Cymru hefyd yn anffodus i beidio mynd ar y blaen yn yr hanner cyntaf, gyda sawl un yn credu eu bod nhw wedi sgorio o gic gornel. Ond doedd hi ddim yn bosibl gweld a oedd y bêl wedi croesi'r llinell. Trueni nad oedd VAR ar y pryd!

Yn y pen draw Lloegr aeth yn eu blaenau i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 2019, ond fe roddod y canlyniad yma hyder i Gymru eu bod nhw'n gallu cystadlu gyda'r goreuon.

2022 - Y Swistir 2-1 Cymru

Dyma'r agosaf erioed iddyn nhw gyrraedd rowndiau terfynol un o'r cystadlaethau mawr.

Ar ôl curo Bosnia Herzegovina yn rownd gynderfynol gemau ail-gyfle Cwpan y Byd 2023, Y Swistir oedd eu gwrthwynebwyr nhw yn y ffeinal.

Ac er i Gymru fynd ar y blaen yn yr hanner cyntaf diolch i gôl Rhiannon Roberts, fe gollon nhw yn eiliadau olaf amser ychwanegol.

Media caption,

Y Swistir 2-1 Cymru

Mi oedd hi'n ffordd greulon iawn i golli gêm, ond y gobaith yw y bydd y profiad yma yn eu sbarduno yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, ac y bydden nhw'n cyrraedd Euro 2025.