aradr
Gwedd
Cymraeg
Cynaniad
- yn y Gogledd: /ˈaradr̩/
- ar lafar: /ˈarad/
- yn y De: /ˈaːradr̩/, /ˈaradr̩/
- ar lafar: /ˈaːrad/, /ˈarad/
Geirdarddiad
Hen Gymraeg arater o'r Gelteg *aratrom o'r gwreiddyn Indo-Ewropeaidd *h₂érh₃trom a welir hefyd yn y Lladin arātrum, y Swedeg årder ‘gwŷdd’ a'r Hen Roeg árotron (ἄροτρον). Cymharer â'r Gernyweg arader, y Llydaweg arar a'r Hen Wyddeleg arathar.
Enw
aradr b/g (lluosog: erydr / ereidr)
- Dyfais a dynnir drwy'r pridd neu'r ddaear er mwyn ei agor yn rhychau er mwyn medru plannu hadau neu blanhigion ynddo.
Cyfystyron
- (Gogledd-ddywrain Cymru) gwŷdd
Termau cysylltiedig
- aradr ddi-wadn
- aradr ddwbl
- aradr droed
- aradr ddwygwys
- aradr deircwys
- aradr feirch
- aradr olwyn, aradr olwynog
- aradr rydd
- aradr ychen
- rhoi llaw ar yr aradr
Cyfieithiadau
|
|