Wil Tân
Gwedd
Wil Tân | |
---|---|
Ganwyd | Ynys Môn |
Man preswyl | Porthaethwy |
Galwedigaeth | dyn tân, canwr |
Canwr gwerin, yn wreiddiol o Ynys Môn, yw Wil Tân. Wiliam Emrys Roberts yn enedigol, ond wedi iddo ymuno gyda'r frigâd dân, ym Mhorthaethwy, cafwyd y llysenw Wil Tân. Mae gan ei gerddoriaeth gysylltiadau Celtaidd cryf gan i Wil gael ei ddylanwadu gan faledi traddodiadol Gwyddelig.
Dechreuodd ganu'n gyhoeddus am y tro cyntaf tra'n ymweld gyda'i ffrindiau o Conemara a Galway. Yn 2017 roedd wedi rhyddhau 5 albwm.
Albymau
[golygu | golygu cod]- Llanw ar Draeth (2012)
- O Gymru i Gonamara (2014)
- Crwydryn (2015)
- Sgrech a Gwen (2015)
- Yr Arwydd (2015)