Waldo Williams
Waldo Williams | |
---|---|
Ffugenw | Waldo |
Ganwyd | 30 Medi 1904 Hwlffordd |
Bu farw | 20 Mai 1971 Hwlffordd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, athro |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Dail Pren |
Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Tad | J. Edwal Williams |
Mam | Angharad Jones |
Gwefan | http://www.waldowilliams.com |
Roedd Waldo Williams (30 Medi 1904 – 20 Mai 1971) yn heddychwr, yn grynwr, yn genedlaetholwr, yn sosialydd ac yn un o feirdd Cymraeg mwya'r 20g. Un o'i gerddi enwocaf yw "Mewn Dau Gae".
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cafodd Waldo Goronwy Williams ei eni yn Hwlffordd, yn fab i J Edwal Williams, athro ysgol gynradd a Chymro Cymraeg. Enw ei fam (cyn priodi) oedd Angharad Jones a Saesneg oedd ei hiaith hi. Mae'n werth nodi fod tad Waldo a'r Parch John Jenkins, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Hill Park, Hwlffordd, yn heddychwyr ac yn aelodau o'r Blaid Lafur Annibynnol.
Roedd yn saith oed yn dysgu Cymraeg pan symudodd y teulu i Fynachlog-ddu yng ngogledd Sir Benfro, 1911 - 1915 lle roedd ei dad yn brifathro ar yr ysgol gynradd. Yn 1915 daeth ei dad yn brifathro ar Ysgol Brynconin, Llandisilio a daeth y teulu'n aelodau o eglwys y Bedyddwyr, Blaenconin lle roedd y Parch D J Michael yn weinidog; heddychwr arall. Mynychodd Ysgol Ramadeg Arberth cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a graddio yn 1926 mewn Saesneg. Yn dilyn hyfforddiant fel athro bu'n dysgu mewn nifer o ysgolion yn Sir Benfro. Bu hefyd yn dysgu yng Ngogledd Cymru (Ysgol Botwnnog) a Lloegr. Bu'n diwtor yn ddiweddarach ar ddosbarthiadau nos a drefnid gan Adran Efrydiau Allanol, Coleg y Brifysgol Aberystwyth.
Priododd Linda Llewellyn yn 1941, ond bu hithau farw o'r diciâu yn 1943, a wnaeth e ddim priodi eilwaith. Yn y gerdd 'Tri Bardd o Sais a Lloegr' mae'n cyfeirio at y blynyddoedd gyda Linda fel 'fy mlynyddoedd mawr'. Yn ei gywydd coffa byr iddi dywed i Linda wneud i'w awen fod fel 'aderyn bach uwch drain byd.'
Dysgodd Wyddeleg yn rhugl, a threuliodd lawer o amser yn Iwerddon yng nghwmni ei gyfaill Pádraig Ó Fiannachta a'i chwaer; dysgodd Pádraig y Gymraeg i eraill ym Mhrifysgol Maynooth. Wedi i Waldo golli ei swydd, gwnaeth gais i fod yn brifathro yn Maynooth, ond ni chafodd y swydd gan nad oedd yn aelod o'r Eglwys Gatholig.
Roedd yn wrthwynebydd cydwybodol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Rhyddhawyd ef yn ddiamod yn dilyn ei ddatganiad gerbron tribiwnlys yng Nghaerfyrddin, 12 Chwefror, 1942.[1]
Roedd yn teimlo mor gryf yn erbyn Rhyfel Corea nes iddo wrthod talu'r dreth incwm, ac fe'i carcharwyd am hynny ddechrau'r 1960au. Roedd yn ymwybodol iawn o feirniadaeth Mohandas Gandhi ar y llenor Rabindranath Tagore pan ddywedodd wrth Tagore 'rhowch i ni weithredoedd nid geiriau.' Gofynnwyd i Waldo a oedd wedi ystyried cyhoeddi ei gerddi. Dyma ei ateb i D. J. Williams "Roeddwn i'n teimlo y byddai eu cael gyda'i gilydd mewn llyfr yn ofnadwy, yn rhagrithiol ac yn annioddefol heb fy mod yn gwneud ymdrech i wneud rhywbeth heblaw canu am y peth hwn.[2][3] Dylanwadodd y bardd sosialaidd a'r athronydd Edward Carpenter arno ef a'i dad.
Safodd dros Blaid Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1959.
Fe'i claddwyd yn agos i'w wraig Linda ym mynwent capel Blaenconin, rhwng Llandysilio a Chlunderwen, lle mae ei garreg fedd yn dwyn y geiriau 'Gwyn eu byd y tangnefeddwyr'. Mae carreg goffa i Waldo ar y comin ger Mynachlog-ddu.
Teulu
[golygu | golygu cod]Ochr ei dad
[golygu | golygu cod]Ar ochr John "Edwal" Williams, tad Waldo, credir fod y teulu'n hannu o'r ardal rhwng Taf a Chleddau, a bod un o'r hynafiaid yn Grynwr a gladdwyd yn Llanddewi Felffre.[4]
John "Edwal" Williams tad Waldo (1863–1934) | Angharad Jones mam Waldo (1876–1932) | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Morfydd Monica (1902–1915 | Mary Enid (1903–1971) | Waldo Williams (1904–1971) | Roger (1907–1969) | Dilys (g. 1910) | |||||||||||||||||||||||||||||||||
Roedd gan Waldo, felly, un brawd a thair chwaer. Bu farw Morfydd yn 13 oed; arferai farddoni gyda Waldo yn Saesneg, yn ôl eu chwaer Dilys. Mewn cofnod o'r cyfnod gan Dilys, dywedodd i Forfydd roi cyngor i Waldo:"Your poetry won't be any good until you get rid of your adjectives."
Mab Dafi Williams oedd Edwal Williams, tad Waldo. Priododd Martha Thomas yng nghapel Blaenconin yn 1862. Disgrifiodd yr Athro David Williams, Aberystwyth Edwal fel, dyn o gymeriad cryf a dylanwadol... yn radical o'r rheng flaenaf, ac yn sosialydd...[5] Nid oedd yn grefyddwr ffurfiol, er ei fod yn aelod o'r Bedyddwyr. Cefnogai ac edmygai Keir Hardy a Walt Whitman a darllenai'n helaeth, yn enwedig gwaith Ruskin. Dylanwad arall arno oedd Thomas Evan Nicholas, neu "Niclas y Glais"(1879 - 1971). Roedd yn Gymro Cymraeg rhugl, ond Saesneg oedd iaith y cartref. Gan mai sosialaeth oedd yn dod yn gyntaf iddo, efallai y teimlai fod crefydd a'r Gymraeg yn rhwystr rhag ymledu'r syniadau radical y credai mor gryf ynddynt.
Ochr ei fam
[golygu | golygu cod]Roedd Angharad yn berson dwys, afieithus, heb fawr o gariad at waith tŷ. Cymerai gryn ddiddordeb yn syniadau ei gŵr. Does dim rhyfedd iddi ymddiddori ym mhynciau'r dydd ac ym myd rhesymeg ac athroniaeth o edrych ar ei llinach. Garddwr oedd ei thad, prifarddwr ar ystadau enfawr Lloegr am lawer o'i oes, a symudodd ef a'i wraig Margaret Price droeon oherwydd ei waith. Aeth y chwe phlentyn, gan gynnwys Angharad, mam Waldo, i'r coleg. Er nad oedd crefydd ffurfiol yn bwysig iawn gan y teulu, roedd y safonau canlynol yn holl bwysig: gonestrwydd, geirwiredd, ffyddlondeb, caredigrwydd a symylrwydd.
Priododd John Jones â Margaret Price, mam-gu Waldo, yn 1875, flywyddyn cyn geni Angharad.
John Jones (1850-1912) | Margaret Price (g. ?) | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Angharad mam Waldo (1876–1932) | John Elias (1878–1948 | Azariah Henry (1881–1956) | Wilhelmina (1884–1920) | William Price (m. 1982) | Mwynlân (g. 1897) | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiadau
[golygu | golygu cod]- Cofio (cyfres Y Ford Gron)
- Brenhiniaeth a Brawdoliaeth. Darlith yng Nghapel y Tabernacl, Abergwaun - 9 Mai 1956. Cyhoeddwyd y nodiadau yn Seren Gomer Haf 1956.
- "Mewn Dau Gae". Baner ac Amserau Cymru, 13 Mehefin 1956.
- "Paham y Gwrthodais dalu treth yr incwm". Baner ac Amserau Cymru, 20 Mehefin 1956
- Paham yr wyf yn Grynwr. Sgwrs Radio 15 Gorffennaf 1956 a gyhoeddwyd yn ddiweddarach ar 25 Mehefin 1971 yn Seren Cymru.
- Dail Pren (1956)
- Cerddi'r Plant (1970). Ar y cyd ag E. Llwyd Williams.
- "Rhyfel a'r Wladwriaeth". Erthygl yn Y Faner (1956).
- "Barddoniaeth T E Nicholas". Y Cardi, Rhif 6 , Gŵyl Ddewi 1970.
- The Old Farm House. Cyfieithiad Saesneg o Hen Dŷ Ffarm gan D. J. Williams.
- Waldo Williams - Rhyddiaith, gol. Damian Walford Davies (Gwasg Prifysgol Cymru, 2001)
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Y Traethodydd, rhifyn Coffa Waldo (Hydref 1971)
- Robert Rhys (gol.), Waldo Williams, Cyfres y Meistri (Gwasg Christopher Davies, 1981)
- Ned Thomas, Waldo Williams, Cyfres Llên y Llenor (1985)
- James Nicholas (gol.), Bro a Bywyd: Waldo Williams 1904-1971 (Cyhoeddiadau Barddas, 1996)
- Alan Llwyd, Stori Waldo Williams: Bardd Heddwch (Cyhoeddiadau Barddas, 2010)
- Alan Llwyd, Waldo: Cofiant Waldo Williams 1904-1971 (Y Lolfa, 2014)
- E. Wyn James, ‘Waldo: Y Bardd Gwlad Cyfriniol’ [6] Darlith i Gymdeithas Lenyddol Bethel, Lerpwl, 13 Medi 2021, i nodi 50 mlwyddiant marw Waldo Williams (1904–71).
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Datganiad Waldo y Traethodydd hydref 1971.
- ↑ Jâms Nicholas Darlith Goffa Lewis Valentine - Cymdeithas Heddwch Undeb Bedyddwyr Cymru, 2000. Tud 12/13
- ↑ www.waldowilliams.com; adalwyd 20 Mai 2015
- ↑ Gweler cyfol goffa Gwilamus, Meillion a mêl gwyllt o faes Gwilamus (cyhoeddwyd tua 1920.
- ↑ [Y Traethodydd; Hydref 1971.
- ↑ (yn en) Waldo - Y Bardd Gwlad Cyfriniol, https://www.youtube.com/watch?v=f0UgydlJGdg, adalwyd 2021-11-01