Uniad sifil
Gwedd

Uniad sy'n gyfreithiol gydnabyddedig ac yn debyg i briodas yw uniad sifil. Ers eu dechreuad yn Nenmarc yn 1989, mae uniadau sifil o dan ryw enw neu'i gilydd wedi cael eu sefydlu gan y gyfraith mewn nifer o wledydd datblygedig er mwyn rhoi hawliau, breintiau a chyfrifoldebau – sy'n debyg i, ac mewn rhai gwledydd yn unfath â, rhai priodas sifil anghyfunryw – i gyplau cyfunryw. Mewn rhai awdurdodau, megis Québec a Seland Newydd, mae uniadau sifil hefyd yn agored i gyplau anghyfunryw.
