Ulan Bator
Math | is-adran weinyddol gwlad lefel gyntaf, dinas fawr, dinas, y ddinas fwyaf |
---|---|
Poblogaeth | 1,396,288 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+08:00 |
Gefeilldref/i | Taipei, Adana, Dinas Leeds, Oakland, Delhi Newydd, Delhi, Irkutsk, Seoul, Denver, Colombo, Tianjin, Krasnoyarsk, Ulan-Ude, Beijing, St Petersburg, Maardu |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Central Mongolia |
Sir | Mongolia |
Gwlad | Mongolia |
Arwynebedd | 4,704.4 km² |
Uwch y môr | 1,350 metr |
Gerllaw | Afon Tuul |
Yn ffinio gyda | Talaith Khentii, Talaith Töv |
Cyfesurynnau | 47.92136°N 106.90551°E |
Cod post | 210 |
MN-1 | |
Prifddinas a dinas fwyaf Mongolia yw Ulan Bator, neu Ulaanbaatar (Mongoleg: Улаанбаатар). Mae'r ddinas yn awdurdod llywodraeth leol annibynnol, heb fod yn rhan o dalaith, ac mae ganddi boblogaeth o fymryn dros 1 miliwn (2008).
Wedi'i lleoli yng ngogledd canolbarth y wlad, mae'r ddinas yn gorwedd tua 1310 m i fyny mewn dyffryn agored ar lan Afon Tuul. Hon yw canolfan ddiwylliannol, diwydiannol ac ariannol y wlad. Mae'n ganolfan cludiant hefyd, a gysylltir gan ffyrdd â phob dinas fawr ym Mongolia a gan reilffordd â'r Rheilffordd Traws-Siberia a rhwydwaith rheilffyrdd Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Sefydlwyd y ddinas ym 1639 fel canolfan mynachlogydd Bwdhaidd, ond ni thyfodd lawer tan yr 20g pan ddaeth yn ganolfan gweithgynhyrchu fawr gyda rhodfeydd eang a sgwariau agored ac adeiladau sy'n nodweddiadol o bensaernïaeth newydd-glasurol y gwledydd sosialaidd yn ail hanner yr 20g.
Addysg
[golygu | golygu cod]Lleolir prif gampws Prifysgol Genedlaethol Mongolia yn Ulan Bator.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]Un o adeiladau hynotaf y ddinas yw mynachlog Bwdhaidd Gandantegchinlen Khiid (Mongoleg: Гандантэгчинлэн хийд; cyfieithiad: "Y Lle Enfawr, Llawn Hapusrwydd") gyda 'i gerflun 26.5-metr o Avalokiteśvara. Adeiladnodedig arall yw Eglwys Gadeiriol Seintiau Pedr a Phaul.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Wenceslao Selga Padilla (g. 1949-2017), esgob
- Lakva Sim (g. 1972), paffiwr
- Giorgio Marengo (g. 1974), esgob
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol Archifwyd 2008-03-29 yn y Peiriant Wayback