Uffern
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | cysyniad crefyddol, lleoliad chwedlonol |
---|---|
Math | byd y meirw |
Y gwrthwyneb | nefoedd, paradwys |
Rhan o | mytholeg Cristnogol, nef ac uffern |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mewn sawl crefydd, man yw Uffern lle y cosbir pechaduriaid a phobl drygionus ar ôl eu marwolaeth am eu gweithredoedd pan fuont yn fyw. Fel arfer fe'i lleolir dan y ddaear ac mae'n cyfateb i raddau i'r syniad o arallfyd y meirw a gynrychiolir gan Hades ym mytholeg y byd clasurol. Dan ddylanwad Cristnogaeth, uniaethwyd yr Annwn Cymreig ag Uffern hefyd, ond math o Baradwys arallfydol oedd Annwn yn wreiddiol, fel y'i darlunir yn chwedl Pwyll Pendefig Dyfed.
Cristnogaeth
[golygu | golygu cod]Ceir sawl enw ar uffern yn y Beibl Cristnogol.
Hen Destament
[golygu | golygu cod]- Sheol[1]: Llyfr Genesis 37:35, 42:38, 44:29, 44:31, ayyb.
- Hinnom[2]: Jeremiah 19:06, etc.
Testament Newydd
[golygu | golygu cod]- Hades[3]: Yr Efengyl yn ôl Mathew 11:23 16:18. Efengyl Luc 10:15. Actau'r Apostolion. 2:27,31. 1 Corinthiaid 15:55. Llyfr y Datguddiad 6:8 1:18 20:13,14
- Gehenna[4]: Yr Efengyl yn ôl Mathew 5:22,29, 30, 10:28, 18:09, 23:15,33. Yr Efengyl yn ôl Marc 9:43,45,47, Yr Efengyl yn ôl Luc 12:05, Llythyr Iago 3:6.