Neidio i'r cynnwys

Swprematiaeth

Oddi ar Wicipedia
Swprematiaeth
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1913 Edit this on Wikidata
Genrecelf haniaethol Edit this on Wikidata
SylfaenyddKazimir Malevich Edit this on Wikidata
GwladwriaethYmerodraeth Rwsia Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cyfansoddiad Swprematyddol gan Kazimir Malevich (1915).

Mudiad celf o ddechrau'r 20g yw Swprematiaeth[1] (Rwseg: супрематизм, Saesneg: Suprematism) sydd yn canolbwyntio ar ffurfiau geometrig sylfaenol, fel cylchoedd, sgwariau a llinellau, wedi'u paentio mewn ystod gyfyngedig o liwiau.

Fe'i sefydlwyd gan Kazimir Malevich yn Rwsia, tua 1913, ac chynhaliwyd arddangosfa yn St. Petersburg ym 1915, lle dangoswyd gwaith Malevich ac 13 o artistiaid eraill gyda gwaith mewn arddull debyg.

Mae'r term "swprematiaeth" yn cyfeirio at gelfyddyd haniaethol yn seiliedig ar "oruchafiaeth deimlad artiffisial pur" yn hytrach nag ar ddarluniau gweledol o wrthrychau.

Rhestr Swprematyddion

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Geiriadur yr Academi, "Suprematism".
  • Andrei Nakov Kasimir Malevich, Catalogue raisonné, Paris, Adam Biro, 2002
  • Andrei Nakov vol. IV of Kasimir Malevich, le peintre absolu, Paris, Thalia Édition, 2007