Rhosgroesiaeth
Gwedd
![]() | |
Math | cymdeithas gyfrinachol, mudiad diwylliannol ![]() |
---|---|
Sylfaenydd | Christian Rosenkreuz ![]() |
Enw brodorol | Rosenkreuzer ![]() |
![]() |

Gellir disgrifio Rhosgroesiaeth fel Cristnogaeth Hermetig. Mae'r mudiad yn ymddangos yn y 15g. Symbol y mudiad oedd y Rhosgroes, sef rhosyn (yn cynrychioli'r enaid) ar groes (yn cynrychioli'r bedair elfen: dŵr, tân, awyr a daear, ac yn adlewyrchu gwreiddiau Cristnogol y mudiad).
Roedd trefniant Rhosgroesiaeth yn ddigon tebyg i Seiryddiaeth Rydd. Roedd yna dri cham ar y llwybr ysbrydol: athroniaeth, y Cabbala, a dwyfol. Roedd gan yr Urdd hefyd dri nod:
- diddymu monarchiaeth a sefydlu llywodraeth wedi ei harwain gan athronwyr
- diwygio gwyddoniaeth, athroniaeth a moeseg, a
- darganfod Panacea, sef ffisig gwyrthiol a allai iachau pob afiechyd.