Priodas gyfunryw yng Ngwlad Belg
Gwedd
Gwlad Belg oedd yr ail wlad i gyfreithloni priodas gyfunryw, a hynny yn 2003, dwy flynedd wedi i'r Iseldiroedd ei chyfreithloni.[1] Mae deddf 2003 yn galluogi cyplau cyfunryw o Wlad Belg i briodi ac yn cydnabod priodasau cyfunryw o wledydd eraill lle mae priodas gyfunryw yn gyfreithlon. Yn 2004 ehangwyd y ddeddfwriaeth i alluogi unrhyw cwpwl cyfunryw i briodi yng Ngwlad Belg os yw un ohonynt wedi byw yn y wlad am o leiaf tri mis.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Belgium legalizes gay marriage. UPI (31 Ionawr 2003). Adalwyd ar 8 Mai 2013.
- ↑ (Saesneg) Gay Marriage Around the World (Belgium). Pew Forum (8 Chwefror 2013). Adalwyd ar 8 Mai 2013.
