Popi Cymreig
Popi Cymreig / Pabi Cymreig | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Urdd: | Ranunculales |
Teulu: | Papaveraceae |
Genws: | Meconopsis |
Rhywogaeth: | M. cambrica |
Enw deuenwol | |
Meconopsis cambrica (L.) Vig. | |
Cyfystyron | |
Papaver cambricum L. |
Planhigyn blodeuol lluosflwydd sy'n perthyn i deulu'r pabi (Papaveraceae) yw'r Popi Cymreig neu Meconopsis cambrica (hefyd: Pabi Cymreig, Pabi Cymru). Ers 2006, mae darlun o'r blodyn wedi ymddangos ar logo Plaid Cymru.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Mae gan Meconopsis cambrica ddail asgellog. Gall y planhigyn dyfu hyd at 30–60 cm (12-24 modfedd) o daldra. Mae'n blodeuo rhwng misoedd Mehefin ac Awst. Mae gan y blodau bedair petal lliw melyn neu oren sy'n mesur 50–88 mm ar eu hyd. Ar ddiwedd yr haf, gwasgarir llawer o hadau duon o gibyn hir.[1]
Mae'r planhigyn yn gynhenid i orllewin Ewrop, gan gynnwys Cymru, de-orllewin Lloegr, Iwerddon, Penrhyn Iberia, y Pyreneau a'r Massif central. Fodd bynnag, gellir dod o hyd iddo ymhell tu hwnt i'w gynefin naturiol erbyn hyn [2]
Ecoleg
[golygu | golygu cod]Ceir hyd i M. cambrica fel arfer mewn lleoliadau llaith a chysgodol ar dir creigiog, ond ar ymyl orllewinol ei ddosbarthiad, fe'i gwelir ar diroedd mwy agored hefyd.[1] Mae'n blanhigyn sydd wedi addasu'n dda i fyw mewn bylchau a holltau mewn creigiau. Golyga hyn ei fod hefyd yn aml i'w weld yn tyfu rhwng cerrig palmant ac mewn cynefinoedd trefol tebyg.
Tacsonomeg
[golygu | golygu cod]Fe roddwyd yr enw gwyddonol gweiddiol, Papaver cambricum, i'r planhigyn gan Carolus Linnaeus yn ei lyfr Species Plantarum yn 1753.[3] Yn 1814, gwahanodd y botanegydd Louis Viguier y planhigyn o Papaver a'i roi mewn genws newydd o'r enw Meconopsis ohewydd fod gan M. cambrica stigmâu gwahanol i weddill aelodau Papaver.
Bellach, mae nifer o aelodau eraill yn y genws Meconopsis, megis y pabi glas. Mae'r rhain i gyd yn gynhenid i fynyddoedd yr Himalaya. Fodd bynnag, mae ymchwil foleciwlaidd mwy diweddar wedi dangos nad ydi M. cambrica yn perthyn i weddill y genws, gan awgrymu fod dosbarthiad gwreiddiol Linnaeus yn gywir wedi'r cyfan.[4] Mae cofnod y rhywogaeth ar y gronfa ddata The Plant List Archifwyd 2018-11-22 yn y Peiriant Wayback wedi ei newid i ddangos hyn.
Y Popi Cymreig (M. cambrica) | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
|
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Williams, Iolo (2012). Llyfr Natur Iolo. Llanrwst, Conwy: Gwasg Carreg Gwalch. ISBN 978-1845271312
- ↑ Stace, Clive A. (2010). "Meconopsis Vig. - Welsh Poppy", New Flora of the British Isles. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt, tud. 88-90. ISBN 978-0-521-70772-5
- ↑ Prain, David (1906). A review of the genera Meconopsis and Cathcartia, Annals of Botany, old series, Cyfrol 20, Rhifyn 4 (yn Saesneg), tud. 323–370. DOI:10.1093/oxfordjournals.aob.a089107. URL
- ↑ Kadereit, Joachim W.; Preston, Chris D; a Valtueña, Francisco J. (2011). Is Welsh Poppy, Meconopsis cambrica (L.) Vig. (Papaveraceae), truly a Meconopsis?, New Journal of Botany, Cyfrol 1, Rhifyn 2 (yn Saesneg), tud. 80-87. DOI:10.1179/204234811X13194453002742