Neidio i'r cynnwys

Papur

Oddi ar Wicipedia
Dalen o bapur.

Deunydd a gynhyrchir ar gyfer ysgrifennu arno yw papur. Fe'i cynhyrchir o ffeibrau gwahanol blanhigion, a feddalir, eu gwynnu ac yna eu sychu i gynhyrchu dalennau tenau.

Defnyddid papyrws yn yr Hen Aifft, wedi ei wneud o'r planhigyn Cyperus papyrus. Yn Ewrop yn yr Oesau Canol, defnyddid memrwn, o groen anifeiliaid ar gyfer ysgrifennu. Yn Tsieina y dyfeisiwyd papur, yn draddodiadol gan yr eunuch Cai Lun, cynghorydd yr ymerawdwr He yn yr 2g. Gwneid y papur o weddillion sidan a choesau reis a phlanhigion eraill. Cyrhaeddodd y dechneg o wneud papur i Japan yn 610 a Chanolbarth Asia tua 750. Roedd wedi cyrraedd Sbaen a Sicilia erbyn y 10g.

Y deunydd mwyaf cyffredin ar gyfer gwneud papur heddiw yw coed, ond mae tua 70% o bapur y byd yn cael ei wneud o hen bapur wedi ei ailgylchu. Y gwledydd sy'n cynhyrchu fwyaf yw'r Unol Daleithiau, Gweriniaeth Pobl Tsieina a Japan.

Maintioli tudalennau o bapur.

Gellir cael papur mewn nifer fawr o wahanol fesuriadau. Y gyfres fwyaf cyffredin o fesuriadau yw'r gyfres A, lle mae A4 yn hanner maint A3, ac A5 yn hanner maint A4.

Defnyddir papur i wneud cardbord sydd yn ddyfais mwy gwydn ac yn cael ei ddefnydio i greu blychau a roliau o storio, siapio a chynnal nwyddau a gweithiau.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]
Chwiliwch am papur
yn Wiciadur.