Niwtron
Niwtron |
Adeiledd y niwtron yn cynnwys cwarciau |
Nodweddion |
Dosbarthiad: Baryon |
Yn Ffiseg, mae niwtron yn ronyn isatomig gyda gwefr net o sero a más o 939.573 MeV/c² (1.6749 × 10–27 kg, ychydig bach yn fwy na proton). Mae'r niwtron, fel y proton, yn niwcleon.
Mae niwclews y rhan fwyaf o atomau (pob un ar wahân i isotôp mwyaf cyffredin Hydrogen, Protium, sy'n cynnwys dim ond un proton yn unig) wedi eu ffurfio o brotonnau a niwtronnau. Y nifer o niwtronnau yn y niwclews sy'n penderfynu pa isotôp o'r elfen ydyw. (Er enghraifft, mae gan yr isotôp carbon-12 6 proton a 6 niwtron, tra bod gan yr isotôp carbon-14 6 proton a 8 niwtron. Isotôpau yw atomau sydd â'r un rhif atomig (a felly yr un elfen) ond gwahanol másau oherwydd gwahanol nifer o niwtronnau.