Neidio i'r cynnwys

Neilon

Oddi ar Wicipedia
Neilon
Enghraifft o'r canlynolgrwp neu ddosbarth o sylweddau cemegol Edit this on Wikidata
Mathpolyamide Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod1935 Edit this on Wikidata
Rhan onylon catabolic process, nylon metabolic process Edit this on Wikidata
Yn cynnwysnylon 6, nylon 66 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r gair nylon (Cymreigiad: neilon) yn enw generig neu gyffredinol am grŵp o bolymerau synthetig h.y. wedi eu gwneud gan ddyn. Gellir eu toddi a'u prosesu'n ffibrau, yn ffilmau ac yn siapau gwahanol.[1] Cynhyrchwyd y neilon cyntaf (neilon 66) am y tro cyntaf ar 28 Chwefror 1935 gan Wallace Carothers yng nghanolfan ymchwil DuPont.[2][3] Ceir nifer o gymwysiadau masnachol i'r deunydd hwn, gan gynnwys dillad, lloriau ac i atgyfnerthu rwber, rhannau o geir ac offer trydanol ac mewn deunyddiau pacio bwyd.[4]

Hosan neilon yn cael ei harchwilio yn Malmö, Sweden yn 1954.

Ystyr y gair

[golygu | golygu cod]

Un chwedl ar lafar gwlad yw mai gair cyfansawdd ydyw, sef cyfuniad o 'New York' (N. Y.) a 'London': 'NY-Lon'. Fodd bynnag, mynegodd John W. Eckelberry o'r cwmni DuPont a greodd neilon yn wreiddiol, yn 1940, nad oedd ystyr i'r "nyl", ond fod y rhan "on" wedi'i gopio o enwau tebyg e.e. cotton (cotwm) a rayon. Cyhopeddodd DuPont yn ddiweddarach mai "No-Run" - gyda 'run' yn golygu 'rhedeg' - oedd yr enw gwreiddiol a fwriwyd, ond nad oeddent yn berffaith sicr na fyddai neilon yn rhedeg (h.y. yn hollti ac yn gwahanu).[5][6]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Kohan, Melvin (1995). Nylon Plastics Handbook. Munich: Carl Hanser Verlag. t. 2. ISBN 1569901899.
  2. American Chemical Society National Historic Chemical Landmarks. "Foundations of Polymer Science: Wallace Carothers and the Development of Nylon". ACS Chemistry for Life. Cyrchwyd 27 Ionawr 2015.
  3. "Wallace Hume Carothers". Chemical Heritage Foundation. Cyrchwyd 27 Ionawr 2015. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  4. "Materials/Polyamide". PAFA. Packaging and Film Association. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-19. Cyrchwyd 19 Ebrill 2015.
  5. Algeo, John (2009). The Origins and Development of the English Language. 6. Cengage. t. 224. ISBN 9781428231450.
  6. Wolfe, Audra J. (2008). "Nylon: A Revolution in Textiles". Chemical Heritage Magazine 26 (3). http://www.chemheritage.org/discover/media/magazine/articles/26-3-nylon-a-revolution-in-textiles.aspx?page=3. Adalwyd 27 Ionawr 2015.