Mawredd Mawr (pantomeim)
Dyddiad cynharaf | 1971 |
---|---|
Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Cysylltir gyda | Cwmni Theatr Cymru |
Math | Pantomeim Gymraeg |
Y pantomeim Cymraeg cyntaf gan Gwmni Theatr Cymru yw Mawredd Mawr a lwyfannwyd ar ddiwedd 1971. Yn ogystal ag actorion craidd y Cwmni Theatr fel Sharon Morgan, Marged Esli, Dyfan Roberts a Dewi Pws, ymunwyd â hwy gan sêr y byd pop Cymraeg ar y cyfnod fel Tony ac Aloma a Rosalind Lloyd, un hanner o'r ddeuawd ddiweddarach, Rosalind a Myrddin. Daeth Beryl Hall a'i chi 'Ben' yn ran ddiharebol o'r cynhyrchiad yn ogystal â'r actor Wynford Elis Owen yn portreadu'r cymeriad dame 'Fairy Nyff' a chyd-gyfarwyddo'r sioe gyda Lyn [T] Jones.[1]
Cymeriadau
[golygu | golygu cod]- Fairy Nyff
- Tywysoges
- Siencyn
- Ianto
- Gwrach
- Brenin Cwallter Caswallon
- Brenhines Martha
Cynyrchiadau nodedig
[golygu | golygu cod]Llwyfannwyd a chrëwyd y pantomeim gan Gwmni Theatr Cymru ym 1971. Cyfarwyddwyr Wynford Ellis Owen a Lyn T Jones; cast:
- Fairy Nyff - Wynford Elis Owen
- Tywysoges - Sharon Morgan
- Siencyn - Dewi Pws
- Ianto - Dyfan Roberts
- Gwrach Ddu - Iona Banks
- Brenin - Dylan Jones
- Brenhines - Beryl Hall
- actorion eraill : Tony ac Aloma, Rosalind Lloyd a 'Ben" ci Beryl Hall.
"Oherwydd 'mod i'n brysur yn rhoi'r sioe at ei gilydd, welodd run o'r cast y cymeriad 'Fferi Nyff' yn ei gyfanwydd, nes i ni gyrradd y dress rehearsal ddiwrod cyn y perfformiad cynta yn Neuadd John Phillips, Coleg y Normal, Bangor", cofiodd Wynford Ellis Owen yn ei hunangofiant;
"Er nad odd 'Nyff' yn dweud fawr ddim drwy'r pantomeim, ro'dd o ar y llwyfan yn ymateb i bopeth, bron, o'r dechra i'r diwedd. Ac, wrth gwrs, yn yr ymateb mae'r hiwmor BOB amser! Dros nos, felly, ac yn gwbl annisgwyl, daeth 'Fferi Nyff' i fod yn seren y sioe. Tylwythen Annheg odd 'Nyff'. Ro'dd rhwbath wedi mynd o'i le yn ystod rhyw swyn neu'i gilydd, ac fe'i ganwyd i'r byd - yn llabwst dros chwe throedfedd, gydag un aden drwsgl ar ei gefn, twtw o gwmpas ei ganol, teits amryliw am ei goesa main, sgidia troi-fyny, a mop o wallt cyrliog melyn, a cheg o'dd wedi'i gor-baentio hefo minlliw coch. Roedd amheuaeth ynglŷn â'i rywioldeb, hefyd - a siaradai'n ferchetaidd, gyda llais uchel, main wrth ffeilio'i ewinedd ag un llaw a chwifio ffon hud â'r llall. Ro'dd ganddo wastad fag anferth am ei wddf, hefyd, ac yn y bag yma byddai pob math o drugareddau. 'Fel mae'n dig-wydd!' fyddai'i gri o hyd, a byddai 'Nyff' yn tynnu'r pethau rhyfedda fel cwningen o het i achub y dydd. Er nad o'dd 'Fferi Nyff' yn dweud rhyw lawer fel cymeriad ar y dechrau, yn fuan iawn wrth i'r daith fynd rhagddi, dechreuais ychwanegu ambell linell yma a thraw - a dim un ohonyn nhw wedi'u sgriptio. Nid oedd hyn at ddant pawb - yn arbennig Iona Banks o'dd yn chwarae rhan y wrach hyll, ac yn genfigennus, braidd, fod 'Nyff' yn cael y chwerthiniadau i gyd. Aeth at Wilbert i gwyno, un diwrnod ac, yn naturiol, daeth Wilbert i gyfleu'r gŵyn i mi. "Cadwch at y sgript, Wynford", medda Wilbert yn ei ffordd ddi-stwr arferol, "ac mi fydd popeth yn iawn wedyn, fachgian!"" [1]
Collodd Wynford Ellis Owen ei dad (y Parchedig Robert Owen, Llanllyfni) yn ystod taith y cynhyrchiad, a bu hynny'n sbardun i waethygu ei ddibyniaeth ar alcohol ar y pryd. "Fedrwn i ddim galaru'n iawn. Cymerwyd y gallu hwnnw oddi arna i gan y tawelyddion a'r alcohol. Roedd fy synhwyrau wedi'u mygu, fy ngallu i deimlo wedi'i afradloni", eglurodd yn ei hunangofiant. "Ond unwaith y byddwn i ffwrdd oddi wrthi [Meira ei wraig] ar daith, byddwn yn colli rheolaeth yn syth ac yn meddwi. Roedd fy stumog yn achosi poen dirdynnol i mi erbyn cynod y pantomeimiau, ac alcohol o'dd yr unig beth o'dd yn lleddfu rhyw 'chydig arno. Erbyn y bore, sut bynnag, fel popeth arall, byddai'r boen yn waeth gan fy ngorfodi i ddechrau ar y meri-go-rownd gwallgo drachefn. Meri-go-rownd gwallgo oedd yn achosi bod fy ymddygiad, hefyd, yr un mor wallgo."[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 Owen, Wynford Ellis (2004). Raslas Bach A Mawr!. Gomer. ISBN 1 84323 362 2.