Arolwg Ordnans
![]() | |
Enghraifft o: | menter sy'n eiddo i'r wladwriaeth, adrannau anweinidogol y Llywodraeth, national mapping agency ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1791 ![]() |
Aelod o'r canlynol | World Wide Web Consortium, Open Geospatial Consortium, EuroGeographics, British and Irish Committee on Map Information and Cataloguing Systems ![]() |
Pencadlys | Explorer House ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Gwefan | https://www.ordnancesurvey.co.uk/ ![]() |
![]() |

Asiantaeth fapio genedlaethol ar gyfer Prydain Fawr yw Arolwg Ordnans (Saesneg: Ordnance Survey), sy'n cyhoeddi cyfres o fapiau awdurdodol o'r wlad, ar sawl graddfa. Mae mapiau cyffelyb ar gyfer Gogledd Iwerddon yn cael eu cyhoeddi gan yr OSNI.
Yn ogystal â'r mapiau ar bapur, mae'n nhw'n cyhoeddi'r graddfeydd mwya poblogaidd ar eu gwefan Get-a-Map, a thrwy wefannau cwmnïau eraill.
Enghraifft o Fap Arolwg Ordnans
[golygu | golygu cod]
(defnyddir gyda chaniatâd - credir bod rhaid ini ddefnyddio ffurf Saesneg y neges)
Mae'r enghraifft hon, sydd yn dod trwy'r gwasanaeth Get-a-Map, yn dangos rhan o swydd Caint yn Ne-ddwyrain Lloegr, ar raddfa 1:25000, sef 4 centimetr ar y map i bob cilometr ar y tir (ond gall y maint ar fonitor cyfrifiadurol fod yn wahanol, wrth gwrs). Mae'r raddfa hon yn addas i gerddwyr, ond mae graddfa llai yn well i yrwyr ceir. TV580982 yw'r lleoliad grid yng nghanol y map.
Pethau i'w gweld yn yr enghraifft
[golygu | golygu cod]- Mae'r map yn defnyddio'r drefn arferol am gyfeiriadau: gogledd i fyny, dwyrain i'r dde, de i lawr, a gorllewin i'r chwith.
- Mae'r llinell goch dew yn dangos ffordd A (prif ffordd), a'r llinell felyngoch dew yn dangos ffordd B (ffordd llai bwysig). Mae'r ffyrdd bach iawn yn wynion. Byddai traffordd yn cael ei dangos gyda llinell las.
- Mae'r llinellau melyngochion meinion yn dangos yr uchder (metrau), trwy gysylltu lleoedd â'r un uchder. Er enghraifft, pen bryn ydy Warren Hill (D.Ddn.), llechweddau ydy Pea Down (G.On.) a Crapham Down (D.On.), a chwm ydy Crapham Bottom (D.). Mae'r rhifau duon (e.e. 158) yn dangos uchder lleol.
- Mae'r llinellau gwyrddion byrion yn dangos llwybrau troed, ac mae'r llinellau gwyrddion hirion yn dangos llwybrau ceffyl (caniateir cerddwyr a beiciau hefyd).
- Mae'r llinellau duon meinion yn dangos cloddiau rhwng y caeau.
- Mae'r ardaloedd gwyrddion (yn y dwyrain) yn dangos coed, a fe ddefnyddir yma symbol coed collddail.
- Dangosir ar y map hefyd clwb golff (symbol golff, G.), maes parcio (llythyren P, Dn.), hostel ieuenctid (triongl coch, G.Dn.), piler triongli (triongl glas golau, Dn.), a thai (e.e. G.Dn.).
- Mae'r hen lythyrennau o'r geiriau Cross Dyke i'r dwyrain yn dangos lle gyda diddordeb hanesyddol.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol
- (Saesneg) Arolwg Ordnans Gogledd Iwerddon (OSNI) Archifwyd 2005-08-10 yn y Peiriant Wayback
- (Saesneg) Gwasanaeth Get-a-map